Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn cynnig ymgynghoriaeth, offer a hyfforddiant i gynorthwyo unigolion a sefydliadau i fod yn fesuradwy'n fwy cynaliadwy... gan wneud gwahaniaeth real difference.
A comprehensive ‘one planet’ approach is intended to reduce the impact of your way of life to the level that the planet can provide, and reintroduce more, and more varied, nature into your environment.
Optimeiddio eich penderfyniadau
Gall unrhyw gorff cyhoeddus neu breifat neu unigolyn ddefnyddio'r ymagwedd i optimeiddio'r holl benderfyniadau strategol, gwario a chynllunio'n gyfannol er mwyn lleihau ei ôl troed ecolegol a charbon i lefel sy'n fesuradwy gynaliadwy. Mae'r ymagwedd hon yn dwyn ynghyd nifer o fuddion na chyflawnir fesul tipyn.
- Mae optimeiddio'ch penderfyniadau gwario yn effeithio ar gadwyni cyflenwi drwy greu marchnad ar gyfer cyflenwyr o fewn yr economi sy'n croesawu pryderon lles cymdeithasol, cynhyrchu a threuliant di-garbon, heb lygredd a 'dolen gaeëdig' (lle na chaiff unrhyw beth ei wastraffu, fel gyda natur). Mae'n aml yn golygu cynhyrchu a chyflenwi mwy lleol, rhoi'r gorau i wastraff, mwy o swyddi, mwy o ffyniant a gwell iechyd. Mae popeth i'w ennill.
- Mae optimeiddio penderfyniadau dylunio'n effeithio ar ôl troed a lles eich cleientiaid a'ch cwsmeriaid.
- Mae optimeiddio'ch effeithiau eich hun yn gallu gwella eich effeithlonrwydd a chynaladwyedd, iechyd a lles eich gweithwyr a'ch ystâd (adeiladau a thir).
Rydym yn hyfforddi unigolion a grwpiau cymunedol hefyd, wrth leihau eu hôl troed ecolegol ac wrth geisio caniatâd cynllunio i gyflawni Datblygiadau Un Blaned yng Nghymru neu rywle arall.
Sicrhau eich bod yn effeithiol
Pwynt allweddol ym mhob achos yw eu natur mesuradwy, i wirio bod eich ymdrechion yn werth chweil ac yn cyflawni eu nodau.
Gallwn ddylunio strategaeth a rhaglen ar eich cyfer sy'n gosod targedau, dangosyddion perfformiad a phwyntiau gwerthuso dros amser i leihau eich ôl troed ecolegol mewn modd sy'n briodol i'ch amgylchiadau penodol.
Byddai'n dod gyda hyfforddiant adeiladu gallu, ac offer monitro a modelu i optimeiddio penderfyniadau gwario, gwirio cynnydd ac annog newid parhaol mewn ymddygiad.
O ganlyniad byddwch yn arbed arian ac adnoddau, yn lleihau llygredd, a gwella presenoldeb natur, iechyd a lles personol.
Rydym yn gweithio o fewn y meysydd hyn:
- Llywodraethu a Rheoli Un Blaned
- Bywyd Un Blaned
- Pensaernïaeth solar goddefol a dylunio Passivhaus
- Ynni a Thechnoleg Adnewyddadwy
- Rheoli Ynni mewn Adeiladau neu Ddiwydiant
- Adnewyddu Cartrefi yn Gynaliadwy
- Cludiant cynaliadwy
- Rheoli Cadwyn Gyflenwi
- Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned
- Tyfu organig
- Cyflenwad dŵr, rheoli a thrin carthffosiaeth yn ecolegol.
You must be logged in to post a comment.