Share

Dyma rai atebion i'n cwestiynau cyffredin. Os oes gennych un na chaiff ei drafod yma, cysylltwch â ni, darllenwch y llyfr, neu dewch ar gwrs. Cliciwch ar y cwestiwn i gael yr ateb!

Beth rydym yn ei olygu gan 'Un Blaned'?

Mae terfyn i allu'r Ddaear i gynnal fywyd.

Graphic showing the biocapacity of the earth, its land, sea and life

Mae'r bywyd un blaned ynghylch byw o fewn y terfynau hyn, gyda phawb yn cael cyfran deg.

Rydym yn defnyddio adnoddau ar hyn o bryd ar raddfa o oddeutu 1.6 Daear. Mae hyn yn amlwg yn anghynaliadwy.

Mae hi'n hanner can mlynedd ers i dreuliant dynol ryw fod o fewn terfynau'r hyn gall y blaned ei ddarparu.

Humanity's ecological footprint since 1970 graph

Ôl troed ecolegol dynol ryw ers 1960 (graff). Mae'r llinell werdd yn cynrychioli'r hyn gall y blaned ei ddarparu. Delwedd: Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang ac WWF.

Ers hynny rydym wedi bod yn byw mewn diffyg, ac mae ein dyled i natur yn gwaethygu.

Os nad ydych yn talu'ch morgais, bydd y banc yn cymryd eich cartref.

Yr hyn a welwn gyda cholli rhywogaethau ar raddfa fawr ac amhariadau hinsoddol ar hyn o bryd yw'r blaned yn cael ei chymryd ymaith.

Mae ardaloedd a arferai gynnal bywyd yn marw.

Dyna pam ei bod yn bwysig iawn bod pob un ohonom, cyn gynted â phosibl, yn dychwelyd i gymryd gan natur beth gall ei darparu.

Dyma fywyd Un Blaned.

Rydym yn ei gyflawni drwy ddefnyddio llai, defnyddio'n fwy doeth (fel ein bod yn difrodi llai), ailblannu ac ailwylltio natur.

Beth yw ôl troed ecolegol?

Mae ôl troed ecolegol yn mesur a ydym yn byw o fewn bio-allu'r ddaear, mewn geiriau eraill, faint o'i hadnoddau rydym yn eu defnyddio o gymharu â faint gall eu darparu.

Mae terfyn i'r blaned, felly rhaid i ni fyw o fewn yr hyn gall y blaned ei ddarparu – nid yn unig ar ein cyfer ni, ond ar gyfer popeth byw – y 'biosffer', fel y'i hadnabyddir, yr ydym oll yn dibynnu arno.

Gelwir yr hyn gall y blaned ei ddarparu yn 'bio-allu'.

Os byddwch yn rhannu bio-allu y ddaear gyda chyfanswm poblogaeth dynol ryw y blaned byddwch yn canfod y gyfran gyfartal ar gyfer pawb. Gelwir hyn yn ôl troed ecolegol fesul person.

Our ecological footprint per person

Delwedd: Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang.

Mae'r ôl troed ecolegol yn cynnwys nid yn unig yr ôl troed carbon, sydd erbyn hyn yn llunio ei hanner, ond mae hefyd yn cynnwys: pysgota, amaethyddiaeth, adeiladu ar dir, cloddio a chwarelu, datgoedwigo a llygredd o gemegion, plastig ac yn y blaen yn yr awyr, mewn dŵr ac ar y tir.

Caiff ei fesur fesul Daear, neu mewn hectar byd-eang fesul person.

Mae hectar oddeutu maint cae rygbi.

Mae'r hectar byd-eang ar gyfartaledd yn hectar cynhyrchiol. (Gan fo arwyneb y Ddaear yn amrywio o anialwch i goedwigoedd cynhyrchiol iawn, rydym yn llunio cynhyrchedd cyfartalog.

Ar hyn o bryd, pe bai pawb yn byw fel rydym yn byw ar gyfartaledd yn y Deyrnas Unedig byddai angen tair planed Ddaear arnom.

Ffordd arall o weld hyn yw bod ôl troed ecolegol Cymru bum gwaith ei arwynebedd arwyneb gwirioneddol.

Beth yw'r 'bywyd Un Blaned'?

Ôl troed ecolegol cyfartalog pawb sydd ar y blaned yw 2.5 hectar byd-eang y person, ond gall ond gynnal 1.6 hectar byd-eang y person. Mae hynny'n wahaniaeth o 0.7 hectar byd-eang. Mae'n golygu bod angen 0.6 Daear arall.

Dyna pam fod gennym argyfyngau natur a hinsawdd – rydym yn defnyddio mwy o'r blaned na all ei greu yn ôl.

Cyflawni 1.6 hectar byd-eang y person neu'n is felly yw diffiniad bywyd 'Un Blaned'.

Mae gan mwyafrif y bobl yn y Deyrnas Unedig ôl troed ecolegol o dri hectar byd-eang y person o leiaf.

Mae angen i bawb wneud eu rhan i symud ymlaen at y nod hwn o 1.6 hectar byd-eang y person.

Gall y Ganolfan Un Blaned eich helpu i ddeall beth mae angen i chi ei wneud o ran offer, adnoddau a hyfforddiant.

Beth yw'r Safon Un Blaned?

Mae'r Safon Un Blaned yn gyfres o ganllawiau sy'n annog newid yn y modd mae sefydliadau'n cyflawni eu busnes i'w helpu i barchu terfynau naturiol y Ddaear. Caiff ei asesu'n annibynnol.

Gall y Ganolfan Un Blaned helpu sefydliadau i ddeall beth mae angen iddynt ei wneud o ran offer, adnoddau a hyfforddiant.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Sut caf i hyd i fy ôl troed ecolegol?

Gallwch ddod o hyd i'ch ôl troed ecolegol drwy ddefnyddio'r cyfrifianell ar wefan llywodraeth Cymru.

Beth yw Datblygiadau Un Blaned (OPD)?

Dyma'r ffordd o fyw mwyaf cynaliadwy yn y Deyrnas Unedig, ac rydym yn gwybod hyn am ei fod yn cael ei fesur.

A house on a one planet development.

Mae Datblygiadau Un Blaned yn ddeddf cynllunio yng Nghymru sy'n caniatáu i bobl adeiladu tŷ yng nghefn gwlad agored – rhywbeth na ganiateir fel arfer = cyhyd â'u bod yn gallu cyflawni'r targedau hyn o fewn pum mlynedd o dderbyn caniatâd cynllunio.

Mae'n cynnwys lleihau eu hôl troed ecolegol i 'Un Blaned'.

Mae'n rhaid i'r cais cynllunio ddangos sut byddant yn bodloni'r targedau hyn, a bydd monitro wedi hynny gan yr adran gynllunio yn cadarnhau hynny a'i peidio.

Mae'r meini prawf hyn yn gwarantu bod 'bywyd un blaned', yn ddilysadwy, y bywyd mwyaf cynaliadwy posib. Credwn y dylai'r meini prawf hyn, ar un ffurf neu'i gilydd, fod yn gymwys ar gyfer holl weithgareddau dynol ryw os ydym am achub ein hunain a'r blaned:

  • Ôl troed ecolegol o lai na 1.88 hectar byd-eang y person
  • Cartrefi carbon sero
  • Bioamrywiaeth a gwella tirwedd – gweithredu organig, defnyddio tir yn adferol
  • 100% ynni adnewyddadwy
  • Integreiddio gyda'r gymuned leol
  • Lleihau effaith carbon teithio
  • Cyflenwad dŵr cynaliadwy
  • Sero gwastraff (gan gynnwys ailgylchu maetholion carthffosiaeth maetholion i wella pridd)
  • Darparu 65% o leiafswm anghenion trigolion drwy fusnesau tir, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

Cwestiynau Cyffredin Datblygiadau Un Blaned

Ble mae'r OPD yn gymwys a ble nad ydyw?

Mae Datblygiadau Un Blaned yn gymwys i dir amaethyddol yng Nghymru heb annedd arno.

Faint o arian fydd ei angen arnaf ar gyfer OPD?
  • Tir oddeutu £7,000 – £10,000 yr erw
  • Caniatâd cynllunio £1,500 – £4,000
  • Cyngor arbenigol £1,000 – £2,000
  • Cloddwaith £3,000 – £5,000 (gan ddibynnu ar fynediad)
  • Anheddau £5,000 – £50,000
  • Costau isadeiledd yn dibynnu ar eich cynlluniau (twnelau polythen, ysguboriau, pyllau, etc.)
  • Ynni: c. £3,000 – £10,000
  • Dŵr: £1,000 – £3,000 am danciau, gwteri, peipiau a hidlyddion
  • Cludiant
  • Offer
  • Marchnata/busnes/pecynnu
Faint o dir sydd ei angen arna i?

2 erw a mwy. Mae'n dibynnu ar y cynnyrch – e.e. nid oes angen cymaint o dir ar fadarch; gallai ychwanegu gwerth i gynnyrch olygu bod angen llai o dir arnoch. Er enghraifft, os byddwch yn gwerthu cacen foron yn hytrach na moron, byddwch yn derbyn pris uwch fesul moronen. Os oes angen tanwydd pren arnoch byddwch angen mwy o dir, felly mae'n werth creu cartref wedi'i inswleiddio'n dda fel nad oes angen llawer neu ddim o danwydd pren arnoch.

Lleiafswm: 2.4 erw (mae rhywun yn gwneud 1 erw)

Caniatáu oddeutu 1 erw y person.

Nid oes angen mwy na 6 erw arnoch oni bai eich bod yn ailwylltio.

Sut gallaf ddod o hyd i dir?
  • Ar lafar
  • Y wasg leol
  • Asiantaethau tai
  • Arwerthwyr.
Sut gallaf gael benthyciad?

Nid yw cymdeithasau adeiladu arferol yn debygol o fod â diddordeb. Mae The Ecology Building Society a Triodos Bank yn sympathetig. Mae cyllido torfol yn opsiwn arall.

Pa fath o fusnes tir a ganiateir ac na chaniateir?

Unrhyw beth sy'n defnyddio deunydd o'r ddaear: cynnyrch bwyd, meddygol, cosmetig a llysieuol, celf a chrefft.

E.e. llysiau, wyau, cig, caws, pêrlysiau, cydau salad, catwad, siwmperi gwlân, crefftau pren, mêl, sudd ffrwythau, blodau wedi'u codi, meddyginiaethau naturiol, etc.

Rhaid cynhyrchu'r rhain yn uniongyrchol ar yr safle OPD.

Digwyddiadau a gweithdai hyfforddi o amgylch tyfu a phrosesu'r fath gynnyrch.

Y prif fusnesau tir fydd y rhai cynhyrchiol. Yn ail, busnesau tir fydd y digwyddiadau a'r hyfforddiant.

Ymhlith yr enghreifftiau o'r hyn na ganiateir yw glampio, tylino, ac yn y blaen, gan nad yw'r rhain yn defnyddio cynhyrchedd y tir.

Fe'ch cynghorir i beidio â dewis busnesau sy'n galw am lawer o deithio gan gwsmeriaid i'r safle; dylai eich cynlluniau teithio leiafu effaith carbon y teithiau, gan gynnwys rhai eich cleientiaid.

Beth yw'r broses gynllunio?

Dylech ddod i adnabod y swyddog cynllunio sy'n arbenigo mewn caniatâd cynllunio ar dir amaethyddol. Bydd hyn yn cynyddu eich siawns o gael cais llwyddiannus. Byddant yn ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall beth maent yn chwilio amdano, a'u helpu i ddeall beth rydych yn ceisio'i gyflawni.

Yna gallwch ddisgwyl dilyn y broses hon:

OPD planning process

Beth yw'r 'gofynion hanfodol'?

Caiff Gofynion Incwm Gofynnol eu diffinio i gynnwys dillad, treth y cyngor, telegyfathrebu/TG (bil ffôn, y rhyngrwyd, cyfrifiaduron etc, teithio (costau tanwydd, tocynnau trên, etc) ac unrhyw fwyd ychwanegol. Yn gyffredinol, £2000-£3000 y person.

Pa mor hir mae'n ei gymryd?

Yn gyffredinol mae'n cymryd chwe mis i flwyddyn i ysgrifennu cynllun rheoli.

Wedi ei gyflwyno, rhaid i'r awdurdodau cynllunio ymateb o fewn wyth wythnos.

Mae'r broses gynllunio gyfan yn gallu cymryd rhwng tri mis a blwyddyn gan ddibynnu ar dderbyn gwrthwynebiadau neu alw am newidiadau i'ch cynllun, ac a oes angen i chi apelio.

A gaf fy ngwrthod?

Gallwch apelio drwy fynd i'r afael â'r rhesymau dros wrthod y cynllun. Peidiwch â'i gymryd yn bersonol: caiff nifer o geisiadau cynllunio, o ba fath bynnag, eu gwrthod y tro cyntaf, ac weithiau rhaid apelio sawl tro cyn llwydo.

A all unrhyw un wneud cais, ni waeth oedran neu allu?

Gall.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn hen neu'n fusgrell?

Ni ofynnwyd i unrhyw un adael, hyd yma, am nad ydynt yn gallu bodloni'r gofynion bellach, er ei bod yn dechnegol bosibl i hynny ddigwydd.

Po hwyaf rydych yna, mwyaf mae eich coed a'ch planhigion wedi tyfu ac mae'r llafur sy'n ofynnol i fodloni'r meini prawf parhaus yn llai; mae bodloni 65% o'ch anghenion gofynnol felly yn ddigon hawdd wedi i'ch system aeddfedu.

Cyhyd â'ch bod yn bodloni hyn ni ofynnir i chi adael.

Credwn y gall unrhyw un, ni waeth lefel eu gallu fyw bywyd un blaned. Dylai fod yn bosibl cael pobl ar y safle i'ch helpu os oes angen; byddai'r ôl troed ecolegol yn cael ei gynnwys yn y cyfrifiadau parhaus; byddai'r un amodau'n berthnasol iddynt hwy.

Pe gofynnid i unrhyw un adael am eu bod yn hen neu'n fusgrell yn unig, yna byddai cyhoeddusrwydd gwael, yn enwedig yn y dyfodol pan fod y byd yn cynhesu hyd yn oed mwy, yn wael iawn ar gyfer yr awdurdod lleol hwnnw.

Beth sy'n digwydd os ydw i am adael?

Gallwch ofyn i rhywun arall gymryd drosodd neu gallwch ei werthu. Byddai rhaid i'r olynydd ailymgeisio gyda'i gynllun rheoli, asesiad anghenion gofynnol a chyfrifiad ôl troed ecolegol ei hun, er mwyn cael caniatâd i fyw yno. Byddai ganddynt fantais sylweddol yr holl goed, planhigion ac isadeiledd sydd eisoes yno, a'r llwyddiant eisoes wedi'i brofi.

Pa fath o fonitro sy'n ofynnol ?

Byddwch wedi nodi yn eich cynllun rheoli pa wybodaeth monitro byddwch yn ei gyflenwi. Lawrlwythwch yr Arweiniad Cynllun Rheoli OPD hwn.

A oes angen i mi fod yn gwbl hunangynhaliol?

Nac oes, mae angen i chi gynhyrchu 30% (yn ôl gwerth) o'ch bwyd eich hun ar eich tir a thalu am 35% arall o'ch cyllideb fwyd drwy naill ai ei gynhyrchu ar eich tir neu drwy ennill arian o fusnes tir. Os byddwch yn cynhyrchu 65% neu fwy o'ch bwyd ar eich tir yna nid oes angen talu am unrhyw gostau bwyd gan ddefnyddio'ch incwm tir.

A yw rhai awdurdodau lleol yn ffafrio OPD yn fwy nag eraill?

Nac ydyn. Mae rhai awdurdodau, yn syml, wedi derbyn mwy o geisiadau nag eraill. Gallai hyn fod wedi effeithio ar eu llwyth gwaith. Mae'r ardaloedd hyn wedi derbyn mwy o gyhoeddusrwydd.

Cyhyd â'ch bod yn bodloni y canllaw cynllunio bydd eich cais yn llwyddiannus.

Pa fath o brofiad sy'n ofynnol?

Yn ddelfrydol bydd gennych beth profiad o'r busnes tir rydych yn dweud eich bod am ei wneud. Efallai y byddwch wedi tyfu llawer o lysiau/ffrwythau, neu wedi cadw anifeiliaid.

Mae sgiliau ymarferol o gymorth mawr: saernïaeth, adeiladu, trydanol, ac yn y blaen. Fel y mae sgiliau busnes a marchnata.

Sut gallaf gael mwy o brofiad?

Trwy wirfoddoli ar OPD eraill a gweithio penwythnosau ar ffermydd organig (WWOOFing), a thrwy dyfu a phrosesau eich bwyd eich hun neu gadw anifeiliaid nawr. Gallwch hefyd fynd ar unrhyw un o'r cyrsiau paramaethu ac adeiladu effaith isel perthnasol a niferus sydd ar gael.

Beth am ei gyflawni mewn cymunedau?

Mae nifer o bobl yn ceisio sefydlu cymunedau effaith isel gyda'i gilydd. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ac mae'n bosib y gallwn eich cysylltu ag un neu eich harwain at ffynonellau cymorth.

Beth os na fyddaf yn bodloni'r gofynion 5 mlynedd?

Os bydd methiant parhaus heb gynllun clir i ddatrys y problemau, byddai'r Strategaeth Ymadael a nodwyd yn y Cynllun Rheoli yn cael ei rhoi ar waith, a bydd yr annedd yn cael ei dynnu ymaith.

Beth dylwn ei roi yn fy nghais cynllunio?