Share

Mae angen i ddinasoedd ddatrys y broblem hon:

Y broblem:

Mae gennym argyfyngau hinsoddol a difodiant am fod costau amgylcheddol a chymdeithasol wedi'u gadael ar y fantolen. Pe bai pawb yn y byd yn byw fel rydym ni yn y Deyrnas Unedig byddai angen tair planed y Ddaear brydferth arnom i'n cynnal. Eisoes mae angen 1.6 planed Ddaear arnom i gynnal ein ffordd o fyw.

Y datrysiad:

Rydym yn cynnig fframwaith 'un blaned' cynhwysfawr a fydd yn achosi newid system dros amser ac yn lleihau effaith ein ffordd o fyw i lefel y gall y blaned ei darparu, ac ailgyflwyno mwy o natur i'n hamgylchedd. Mae'n golygu cynhyrchu a chyflenwi mwy lleol, rhoi'r gorau i wastraff, mwy o swyddi, mwy o ffyniant a gwell iechyd. Mae popeth i'w ennill.

Gall unrhyw gorff cyhoeddus neu breifat ddefnyddio'r fframwaith i optimeiddio'u penderfyniadau gwario er mwyn cyflawni'r gôl o wneud i'r rhanbarth leihau ei ôl troed ecolegol a charbon i lefel gynaliadwy y gellir ei mesur. Mae'r cyfnod amser wedi'i ddiffinio. Mae'r offer a ddefnyddir yn codi ymwybyddiaeth o effeithiau gwahanol fersiynau o wariant cyllidebol.

Graph showing how the carbon footprint can contract over time from 2019-3020 and reduce resource dependence

Graff yn dangos sut gall yr ôl troed carbon grebachu dros amser rhwng 2019-3020 a lleihau dibyniaeth ar adnoddau.

Y llwybr at ranbarth 'Un Blaned'

  1. Cael rhanddeiliaid i gymryd perchnogaeth a chodi ymwybyddiaeth drwy archwilio pa safonau, ffynonellau data a nodau i'w defnyddio.
  2. Canfod gwaelodlin - cyflwr cyfredol bio-allu a defnydd o adnoddau.
  3. Gosod targedau i leihau treuliant a hybu bio-allu ar gyfer pob sector dros amserlen realistig (e.e. fesul pum mlynedd hyd at 2040).
  4. Rhoi dulliau hawdd mewn lle i'w mesur.
  5. Gwirio a mireinio'n barhaus.

5 gofyniad sylfaenol 'Un Blaned'

  1. Byddai nod o leihau ôl troed ecolegol i 'un blaned' erbyn (2040 dyweder) yn dod yn egwyddor sylfaenol pob gwaith cynllunio a pholisi fel strategaeth adfywio wiriadwy.
  2. Newid system, gyda'r un gyfred o feini prawf cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu defnyddio i asesu'r holl benderfyniadau cynllunio ac isadeiledd/cadwyn gyflenwi (e.e. lleihau ôl troed ecolegol a chynyddu bio-allu, achosi newid sylweddol fesul cam dros amser, yn yr un modd â'r meini prawf cynllunio a gymhwysir i Ddatblygiadau Un Blaned yng Nghymru ar hyn o bryd).
  3. Caiff y meini prawf eu hysbysu gan ddangosyddion gan gynnwys dadansoddiad ôl troed carbon ac ecolegol, gan ddefnyddio offeryn syml sy'n cymharu gwahanol ddyluniadau prosiect ar gyfer eu costau a'u buddion cymdeithasol, ecolegol ac economaidd.
  4. Byddai polisi swyddogol yn cefnogi pob maes a sector i fod yn fwy cynhyrchiol a bioamrywiol - adfywiol. e.e. cefnogi tyfu mwy o fwyd a theithio actif.
  5. Lleihau effaith cynhyrchu a threuliant drwy newid sylweddol i ddolen gaeëdig, mwy o liferi caffael lleol, credu bod bodloni anghenion sylfaenol yn ddigonol i bawb.

Sut byddai cyrff gwario yn mynd ati

Byddai pob prosiect a gaiff ei gychwyn gan gyrff gwario yn cael eu gwerthuso yn erbybn y nod cyffredinol fel hyn:

  • Sut gyflwr adnoddau hoffai'r rhanbarth yn 2030 a 2050 er mwyn bod mewn sefyllfa i lwyddo?
  • Beth mae lleihau ôl troed ecolegol yn ei gyfleu? (yn erbyn yr arolwg gwaelodlin)
  • Beth yw'r gyllideb ariannol a ddisgwylir ar gyfer prosiectau dros y cyfnod amser (e.e. hyd at 2030 neu 2050)?
  • Trwy rannu'r gostyngiad yn erbyn y gyllideb a ddisgwylir, ceir safon perfformiad gofynnol ac gyfer pob prosiect - meincnod.
  • Mae pob opsiwn nad yw'n curo'r meincnod hwn yn faich a dylid eu hosgoi. Rhaid ffafrio'r prosiectau sy'n perfformio orau a dysgu ohonynt.

Mae hyn yn awgrymu 2 gwestiwn ynghylch bob gwariant

I sicrhau bod holl fuddsoddiadau'r weinyddiaeth yn effeithiol wrth helpu i gyflawni'r amcan a ddiffiniwyd byddai angen iddynt lwyddo mewn dau werthusiad:

  1. A yw'r buddsoddiad yn cynhyrchu enillion ariannol cadarnhaol (ROI)? Os nad ydy, ni ellir atgynhyrchu'r prosiect. Po uchaf yr ROI cyflymaf y gellir ei raddio.
  2. A yw'r buddsoddiad yn symud diogelwch adnoddau ymlaen yn ddigon cyflym? Os nad ydy, ni fydd y ddinas yn barod am y dyfodol rydym yn ei ragweld. (Caiff diogelwch adnoddau ei ddiffinio gan bio-allu, poblogaeth, llif adnoddau (gan gynnwys carbon)).

Offer i helpu: 1. Cyfrifo ôl troed ecolegol

Illustration of the components of an ecological footprint.

Darluniad o gydrannau ôl troed ecolegol.

  • Darparu gwedd fiolegol & yn uno holl wasgeddau dynol ryw - dŵr, hinsawdd, bioamrywiaeth, bwyd, ynni, etc. Mae hyn yn caniatáu i ni eu datrys i gyd gyda'i gilydd.
  • Canlyniadau ôl troed ecolegol yn ddealladwy i bobl gyffredin (yn wahanol i carbon).
  • Gwneud yr hunan-les economaidd yn glir ac yn amlwg. Mae'n pwysleisio diogelwch adnoddau.
  • Mae'n caniatáu i ddadansoddwyr polisi nodi pa opsiynau sy'n lleihau dibyniaeth economi ar adnoddau a maint y ddibyniaeth honno.
  • Buddsoddiadau cynaliadwy sy'n bodloni angen buddsoddwyr i fodloni'r meini prawf adnoddau ac ariannol.

I gyflawni'r defnydd hwn: 2. Yr offeryn Gwerth Presennol Net+ (NPV)

  • Mae'n ehangu ar yr NPV clasurol. Gweler: https://www.footprintnetwork.org/npvplus/
  • Mae'n cymharu gwahanol sefyllfaoedd ar gyfer gwariant penodol.
  • Gall eich helpu i werthuso faint mae'r gwariant o fantais i'r meini prawf cymdeithasol, ariannol ac amgylcheddol.
  • Mae hefyd yn egluro'r dyfodol tybiedig o fewn y gwariant sydd ar gael.
  • Yn sicrhau bod yr holl gostau a buddion perthnasol yn cael eu cyfrif o fewn 5 dull o weithio'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – genuine participatory and holistic governance.

Cynhyrchwyd gan y Ganolfan Un Blaned mewn partneriaeth â Global Footprint Network