Share
  • Hoffech chi le diogel a gweddol fforddiadwy i fagu'ch plant?
  • Hoffech chi fod yn fwy iach ac yn hapusach?
  • Hoffech chi fyw'n agosach at natur?
  • Ydych chi am helpu'r amgylchedd a gwneud eich rhan wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?

Beth bynnag fo'ch rheswm, mae'r bywyd un blaned yn eich galw fel modd o gyfoethogi eich mwynhad o fywyd bob dydd a chanfod boddhad mewn gweithredoedd syml.

Mae'r bywyd un blaned ynghylch gwella.

Yn seiliedig ar ein profiad, mae'n debygol iawn y gallwch ganfod pleser mewn byw mewn cartref nad yw'n allyrru llygredd – neu hyd yn oed un y gwnaethoch helpu i'w adeiladu eich hun; wrth gynhyrchu eich ynni eich hun neu wrth brynu ynni adnewyddadwy; ac wrth fwyta bwyd rydych wedi'i dyfu eich hun neu sy'n ffres ac yn lleol.

Mae'n debygol y byddwch yn gwneud ffrindiau ac yn teimlo eich bod yn perthyn i gymuned.

Mae gwell deiet yn rhoi mwy o gyfle i fod yn iachach.

Mae cael mwy o natur o amgylch ble mae pobl yn byw ac yn gweithio yn helpu lles, bioamrywiaeth a gwydnwch.

Egwyddor sylfaenol lleihau ôl troed ecolegol un blaned yw gweithio gyda natur, nid yn ei erbyn.

Gallwch naill ai ymarfer hyn ble rydych yn byw nawr, neu feddwl am brynu tir ac adeiladu datblygiad 'un blaned'.

Cliciwch yma i ganfod mwy.