Share

Mae'r rhaglen Llywodraethu 'Un Blaned' newydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ddyfarniad Lefel 7 a fydd yn darparu cyfle datblygu proffesiynol parhaus ar gyfer llywodraethu, gweinyddu a llunio polisïau gwleidyddol, dinesig a chyhoeddus cynaliadwy.

Gyda'r llywodraeth a nifer o gynghorau yn datgan argyfyngau hinsawdd a difodiant, mae gweinyddwyr a llunwyr polisïau yn tybio sut i ymateb. Mae'r cwrs ôl-raddedig byr, o bell, hwn yn cael ei gynnig i ddarparu nifer o atebion.

Bydd y cyfranogwyr yn cyfuno eu gwaith eu hunain gyda phrofiad cwbl ar-lein, gan gyflawni dysgu cydweithredol gyda myfyrwyr ledled y byd.

Daw'r dysgwyr i ddeall yr heriau cydberthynol syn eu hwynebu, ac ymchwilio i'w arbenigedd eu hunain fel astudiaeth achos ymarferol.

Maent yn dysgu am nifer o enghreifftiau o ddatrysiadau llwyddiannus ledled y byd. Mae nifer o'r rhain ynghylch adeiladu di-garbon, hydwythedd lleol, creu swyddi, byw'n iach a'r economi gylchol.

Maent yn dysgu sut i fesur effeithiolrwydd gweithredoedd i osgoi gwastraff drwy archwilio'n feirniadol yr offer, y safonau a'r methodolegau sy'n cael eu rhoi ar waith gan wahanol weinyddiaethau o amgylch y byd, ar draws gwahanol sectorau.

Fel elfen arbennig, bydd y myfyrwyr yn cyflawni astudiaeth fanwl o sut rhoddir y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) flaengar ar waith a'i effeithiolrwydd. Mae gweinyddiaethau eraill y Deyrnas Unedig yn ystyried datblygu Deddf debyg eu hunain.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno drwy Amgylchedd Dysgu Rhithiol ar-lein Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd y testun canolog yn lyfr newydd, One Planet Cities. I ganfod mwy o wybodaeth a gwneud cais, cliciwch yma.

Ddechreuodd fis Hydref 2020. Mae pwyntiau datblygiad proffesiynol parhaus ar gael ar gyfer gweision sifil.