Share

Detholwyd yr astudiaethau achos hyn i ddarlunio amrywiaeth o ymagweddau sy'n gosod meini prawf un blaned ar gyfer datblygiadau newydd. Cliciwch ar y llun i gael disgrifiad PDF.

The Cannery, Sacramento

Gwersi defnyddiol: Mae cynnwys fferm, coleg hyfforddi amaethyddol, amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned, peth tai fforddiadwy, swyddi, ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, a chludiant carbon isel yn y prosiect hwn, ynghyd â chefnogaeth y cyngor lleol, yn ei wneud o ddiddordeb. Mae'r ymagwedd ariannol yn gonfensiynol (buddsoddiad datblygwr yn cael ei adfer drwy werthu am bris uchel a rhenti unedau manwerthu) Ceir ymagwedd amlgenhedlaeth gyfannol i ddatblygu preswyl.

Model Baugruppen

 

Gwersi defnyddiol: cynnwys trigolion wrth ddylunio'u cymdogaeth a'u tai, sy'n ennyn cyd-dynnu cymunedol; y model tai di-elw; cefnogaeth awdurdodau lleol; tai fforddiadwy; defnyddio meini prawf heb fod yn ariannol wrth ddewis adeiladwyr ar gyfer y gwaith.

Heathcott Road, Leicester

Gwersi defnyddiol: Pwysigrwydd unigolyn (unigolion) allweddol sy'n gyrru'n, ymgynghori cymunedol cynhwysfawr; trosglwyddo asedau o'r cyngor; 100% o dai fforddiadwy; hyfforddiant a chyswllt â chynhyrchu bwyd. Fe'i rheolir gan elusen, gyda nodau sy'n cynnwys datrys tlodi, yr amgylchedd/cadwraeth/treftadaeth a datblygu economaidd/cymunedol/cyflogaeth. Prydlesu tir i ddatblygwr, cartrefi Passivhaus Standard, a defnyddio'r incwm rhent i dalu, inter alia, am swyddog datblygu ar y safle.