Share

Datrysiadau ar gyfer yr argyfyngau hinsawdd a natur

Rydym yn helpu sefydliadau o bob maint ac unigolion i leihau eu hôl troed ecolegol gyda'n canolfan wybodaeth sy'n tyfu o hyd ac sy'n llawn datrysiadau profedig, hyfforddiant ac adeiladu gallu.

Wedi'n harwain gan wyddoniaeth a data, rydym yn integreiddio ein gwaith gyda Nodau Datblygu Cynaliadwy a Llesiant. Ein nod yw helpu'r byd i fod yn fwy iach a mwy cyfartal - o fewn terfynau'r hyn gall y blaned ei ddarparu. Mae'r rhain yn derfynau mae'r byd yn mynd tu hwnt iddynt ar hyn o bryd.

Rydym yn cynnig:

  1. Safon Un Blaned sy'n cefnogi sefydliadau i symud i lefel o ddefnyddio adnoddau ac uwchraddio natur sy'n amddiffyn safonau byw a'r amgylchedd ar yr un pryd.
  2. Hyfforddiant a gwybodaeth i grwpiau ac unigolion sydd am fyw y bywyd 'un blaned' fel a ddiffinnir o dan system cynllunio datblygu flaengar 'Un Blaned' Cymru.

Gall unrhyw un neu unrhyw sefydliad fabwysiadu'r ymateb hwn i'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur. Ar hyn o bryd yn ddi-os nid yw'r byd yn byw yn gynaliadwy ac mae'n anelu at ddifancoll.

Ar y wefan hon byddwch yn canfod manylion cyhoeddiadau, gwasanaethau, cyrsiau, newyddion, i gynorthwyo gyda'r broses hon, a'r hyn gall Canolfan Un Blaned ei gynnig.

Llawlyfrau

Mae ein gwaith yn adeiladu ar ddau lawlyfr a ysgrifennwyd gan ein sylfaenydd-gyfarwyddwr David Thorpe:

  • The One Planet Life – llawlyfr ar fyw bywyd effaith isel i unigolion, teuluoedd a chymunedau.
  • One Planet Cities – compendiwm o ddatrysiadau ar gyfer trefi a dinasoedd, a llwybr a awgrymir ar gyfer trosi i statws 'un blaned'.

Sut gallwn ni eich helpu chi? Fedrwch chi ein cefnogi ni? I gael sgwrs neu i holi cwestiwn penodol cwblhewch y ffurflen yma.