Share

Y Bwrdd

David Thorpe of the One Planet Centre

Mae David Thorpe yn Sylfaenydd/Cyfarwyddwr y Ganolfan Un Blaned ac yn gyd-sylfaenydd/noddwr y Cyngor Un Blaned. Mae'n ymgynghorydd, rheolwr prosiect ac yn areithiwr ysgogol ym maes cynaladwyedd gwledig a threfol, rheoli ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae'n ddarlithydd datblygu/llywodraethu 'un blaned' ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn awdur The One Planet Life - llawlyfr byw effaith isel i unigolion, teuluoedd a chymunedau; ac One Planet Cities – compendiwm o ddatrysiadau ar gyfer trefi a dinasoedd, a llwybr llwyddo a awgrymir ar gyfer trosi i statws 'un blaned', ynghyd ag wyth llyfr arall a miloedd o erthyglau am y pynciau hyn, a nifer o nofelau a sgriptiau ffilm. Mae'n credu mewn defnyddio ei wybodaeth helaeth i ddangos y buddion niferus sydd ar gael drwy newid cadarnhaol. Mae'n arbenigwr wrth ddehongli gwybodaeth gymhleth mewn modd ymgysylltiol a syml ac yn cynnal gweithdai a chyrsiau.

Lisa Sture

Mae gan Lisa Sture, Ysgrifennydd y Cwmni, gefndir mewn hyfforddiant, rheoli a datblygu trefniadaethol, wedi gweithio yn y gwasanaeth sifil yn Llundain, ac fel rheolwr datblygu staff. Roedd yn gadeirydd cwmni nid-er-elw lle bu'n helpu i lansio Menter Adnewyddu Cymunedau'r llywodraeth; cyfarwyddwr sylfaenu Devon Association for Renewable Energy; prif weithredwr cwmni deunydd adnewyddadwy bychan; a Swyddog Arfarnu Cynaladwyedd Cyngor Rhanbarthol Torridge. Mae'r sgiliau hefyd yn cynnwys hyfforddiant maeth, paramaethu, garddwriaeth, a chyflenwi ar gyfer cynllun blwch llysiau lleol. Mae'n canfod cyd-ddibyniaeth hardd popeth ym myd natur i fynegi stori obeithiol, glasbrint ar gyfer twf ac estyniad o fewn system gylchol, hunangynhaliol.

Tom Skipworth, Treasurer of the One Planet Centre

Mae gan Tom Skipworth, Trysorydd, gefndir cryf mewn cydymffurfiad a chyfleoedd ariannu ac mae'n angerddol am fyw'n gynaliadwy ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae hefyd ganddo brofiad ym maes gwerthu a datblygu staff ac mae'n dysgu am adfer pridd organig. Cred y dylai pawb ddod i wybod am effaith amgylcheddol eu dewisiadau a gallu dylanwadu arnynt.

 

Bwrdd Ymgynghorol

Virgins Isaac, business development officer, One Planet Centre CIC

Mae gan Virginia Isaac, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, gefndir cryf ym maes cynaladwyedd. Bu'n brif weithredwr Inspiring Futures Foundation - sefydliad arweiniad gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer pobl ifanc. Ymhlith swyddi cyfarwyddol anweithredol eraill mae llywodraethwr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n Sylfaenydd/Cyfarwyddwr Alter Via Ltc sy'n arbenigo mewn datblygu ac adeiladu refeniw'r drydedd ffrwd o fewn elusennau a sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus. Mae Virginia, a'i gŵr, yn ffermio'n adferol yng Nghymru gyda phwyslais penodol ar ei berthynas ag iechyd. Roedd ei thad, Fritz Schumacher, yn arloeswr yn y mudiad ecolegol ac yn awdur y llyfr blaengar 'Small is Beautiful' ymhlith cyhoeddiadau eraill.

Jane Davidson, One Planet Centre

Jane Davidson: Gweinidog dros yr Amgylchedd a Chynaladwyedd Cymru (2007-2011) yn Llywodraeth Cynulliad Cymru a fu'n goruchwylio cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, a pholisi cynllunio Datblygiadau Un Blaned. Mae'n Is-ganghellor Cysylltiol dros Ymgysylltiad Allanol a Chynaladwyedd ac yn Gyfarwyddwr INSPIRE (Sefydliad er Arfer Cynaliadwy, Arloesedd, Ymchwil a Menter) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae Jane yn angerddol am yr amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau. Mae ganddi amrywiaeth o gymrodoriaethau anrhydeddus gan CIW (Chartered Institute of Waste) a CIWEM (Chartered Institute of Water and Environmental Management) ac mae'n aelod o Gyngor Llysgenhadol y Deyrnas Unedig WWF. Hi yw noddwr y Chartered Institute of Ecology and Environmental Management (CIEEM) a Tools for Self-reliance Cymru (TFSR).

Andy Middleton of the One Planet Centre

Andy Middleton: arbenigwr arloesedd cynaliadwy, yn cysylltu pobl a syniadau er mwyn cyflymu amseriad, graddfa ac effaith newid cadarnhaol. Sefydlodd y Grŵp TYF, BCorp sy'n eiddo i'r gweithwyr, ac yn cefnogi eu cenhadaeth i dyfu chwilfrydedd a hyder cadarn yng ngallu pobl i gyfrannu at fyd gwell, tra'n chwarae ac yn byw'n ysgafn ar y blaned. Andy yw Cyfarwyddwr Anweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae'n aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi. Fel Partner Sylfaenu Do Lectures a mentor gydag Unreasonable Group, mae'n helpu arweinwyr a thimau i ddatrys heriau mawr trwy gysylltu'r dotiau mewn ffyrdd newydd.

 

Eurgain Powell, non-exec director of the Oe Planet Centre

Mae Eurgain Powell yn achosi newid yn swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gan arwain eu gwaith ar gludiant, datgarboneiddio a chaffael. Datblygodd Fframwaith Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer prosiectau a hi yw awdur adroddiad "Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol." Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar y Strategaeth Drafnidiaeth newydd, y defnydd o arweiniad WelTAG, masnachfraint rheilffordd Trafnidiaeth Cymru a Metro, cynllun cyflwyno carbon isel a rhaglenni prawf caffael.

 

Jasmine Dale

Jasmine Dale: Dechreuodd Jasmine ar ei thaith Un Blaned gyda phentref ecolegol Crystal Waters ym 1999, lle darganfu bŵer dysgu creadigol a datrysiadau ymarferol ar gyfer heriau'n hoes. Wedi'i hysbrydoli gan fyw'n syml a pharchu natur, adeiladodd yn ddiweddarach, gyda'i gŵr Simon, gartref naturiol yn ddwfn yn nghoetir Cymru, a ddaeth yn ffenomen ar y rhyngrwyd sef y 'tŷ hobbit', gan ysbrydoli miloedd o bobl. Yn 2009, cyd-sylfaenodd Jasmine y pentref eco Lammas gyda 9 o deuluoedd eraill.  Gan gychwyn gyda chaeau noeth, mae ei phrofiad bellach wedi'i wreiddio mewn blynyddoedd o drawsffurfio tir wedi'i ddiraddio yn dirwedd bioamrywiol, bwytadwy a byw o fewn ôl troed Un Blaned. Mae wedi dysgu dylunio paramaethu a sgiliau ymarferol i adfer tir a chreu cartrefi ecolegol gadarn trwy ddatrysiadau llawr gwlad ers dros ddegawd. Mae wedi hyfforddi, a dysgu gan, fwy na 1000 o bobl a grwpiau o bob agwedd ar fywyd. Mae nifer ohonynt wedi mynd yn eu blaenau i sefydlu tyddynnod ffyniannus; adeiladu eu cartrefi naturiol eu hunain a chreu gerddi bwyd cynhyrchiol yng Nghymru, Iwerddon, Unol Daleithiau'r America, Awstralia, Gwlad Belg, yr Almaen, Lithwania, Rwmania, Ffrainc, Croatia, De Corea a Norwy. Mae ei llyfr gwaith ymarferol, Permaculture Design Companion, yn ffrwyth gwaith yr holl ryngweithio a blynyddoedd o sefydlu tyddyn cadarn, oddi ar y grid.

Lewis Whitehouse

Lewis Whitehouse, statistician and ecological footprint analysist, is a Mathematics graduate and holds an Ecological Economics MSc with a passion for sustainability and the environment. His dissertation focused on ecovillages and their potential for offering a better way of living in accordance with nature, and he now plans to focus his career on finding sustainable solutions that can help achieve a one planet life.

Want to join us? Cysylltwch!