Nodweddion trefi a dinasoedd Un Blaned
Y tu hwnt i adeiladau di-garbon, defnyddio adnoddau dolen gaeëdig a chyflenwadau ynni adnewyddadwy, y prif heriau ar gyfer bywyd un blaned yw cludiant a darpariaeth bwyd, nid yn unig yng nghefn gwlad ond mewn trefi a dinasoedd hefyd.
Mae angen cynllunio cymunedau mewn modd fel yr anogir cerdded, beicio, cludiant cyhoeddus a cherbydau trydan a bwerir yn adnewyddadwy, fel y prif ddulliau cludiant.
Bydd angen i ddinasoedd a threfi dyfu llawer mwy o'u bwyd eu hunain, gan ddefnyddio ffermydd fertigol a dan do mwy na thebyg, gwresogi ac awyru adeiladau mawr yn oddefol, ailgylchu eu dŵr eu hunain, a chaniatáu tyfu a chynaeafu cnydau drwy'r flwyddyn.
Gallai dinasyddion hefyd dyfu peth o'u bwyd eu hunain ynghyd â chael perthnasoedd gydag Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned ar gyrion eu hardaloedd trefol, fel oedd yr achos yn y gorffennol. Mae Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned yn caniatáu i dyfwyr werthu tanysgrifiadau i'w gwasanaethau fel bod ganddynt y cyfalaf angenrheidiol trwy gydol y flwyddyn i gynhyrchu cyflenwad bwyd wedi'i warantu i'w cwsmeriaid.
Fel yn Freiburg, yr Almaen, mae'r ardaloedd hyn yn gweld eu gwastraff organig yn cael ei dreulio'n anaerobig a'i droi'n wrtaith, yn nwy adnewyddadwy ar gyfer tanwydd, ac yn wres. Gallai'r nwy bweru celloedd tanwydd wedi'u gyrru gan fethan neu ei fwydo i'r grid nwy lleol.
Bydd yr economi gylchol yn cael ei mabwysiadu'n eang, gyda'n agos at sero wastraff a phopeth wedi'i ddylunio fel y gellir ailddefnyddio ei gydrannau ar ddiwedd ei oes.
Bydd angen cynnwys yr holl nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu mewnforio i'r ardal ledled y byd, a'r holl deithiau mewn awyren a dulliau eraill gan y dinasyddion, wrth gyfrifo ôl troed ecolegol trefi a dinasoedd.
Bydd angen addasu isadeiledd i ymdopi â thywydd eithafol mwy rheolaidd hefyd. Rhaid i ecosystemau dinasoedd fod yn adfywiol trwy ymgorffori, nid gwaredu, natur.
Mae hyn oll yn creu cyfleoedd cyffrous ar gyfer arloesedd, adeiladu cymunedau a ffyrdd mwy iach o fyw.
Mae gennym gronfa ddata o enghreifftiau blaengar ar draws y byd, a gall helpu wrth lunio polisïau ac arferion. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion..
Gadael Ymateb
Rhaid bod wedi mewngofnodi i gofnodi sylw.