Datblygiadau Un Blaned yng Nghymru
Mae rhywbeth arbennig yn digwydd yng Nghymru. Mae'r wlad yn defnyddio deddfwriaeth i newid ei hun i gyfeiriad gwahanol iawn i Loegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am fod yn fwy cynaliadwy, trwy leihau ei 'ôl troed ecolegol' i lefel sy'n deg o'i chymharu â phoblogaeth ac adnoddau gweddill y blaned.
Yn arwain ar yr ymagwedd hon ar gyfer unigolion ac aelwydydd mae cysyniad Datblygiadau Un Blaned.
Beth yw Datblygiadau Un Blaned?
Trwy ei Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN 6) a Pholisi Cynllunio Cymru (PPW) mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu polisïau cynllunio defnydd tir i gefnogi cymunedau cynaliadwy. Mae Polisi Cynllunio Cymru (2016) yn dweud:
4.5.11 Wedi'i halinio'n agos i ymrwymiadau mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd mae ymagwedd Llywodraeth Cymru i leihau ôl troed ecolegol Cymru. Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn amlinellu ein huchelgais i Gymru ddefnyddio ei gyfran deg o adnoddau'r byd, lle, o fewn cenhedlaeth, bydd ein hôl troed ecolegol yn cael ei leihau i gyfartaledd byd-eang argaeledd adnoddau – 1.88 hectar byd-eang am bob person. Mae'r ôl troed cyfredol yn dangos pe bai pawb ar y Ddaear yn byw fel ni, byddai angen gwerth 2.7 planed o adnoddau arnom. Bydd lleihau ôl troed ecolegol Cymru yn galw am ostyngiad mawr yng nghyfanswm yr adnoddau a ddefnyddir i gynnal ein ffordd o fyw. Bydd y polisi a'r arweiniad a nodir yma ym Mholisi Cynllunio Cymru yn gwneud cyfraniad pwysig i leihau ein hôl troed, tra'n cyflwyno datblygu cynaliadwy a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae Adran 4 TAN 6 yn diffinio Datblygiadau Un Blaned (OPD) fel enghreifftiau o ddatblygu cynaliadwy:
4.15.2 Mae sawl ffurf bosibl i Ddatblygiadau Cenedl un Blaned. Gallant fod naill ai yn gartrefi unigol, yn gymunedau cydweithredol neu’n aneddiadau mwy. Gallant fod wedi eu lleoli mewn aneddiadau presennol neu’n agos atynt, neu wedi eu lleoli yng nghefn gwlad agored.
Hynny ydy, unrhyw le. Fodd bynnag, mae arweiniad cynllunio ond yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer OPD yng nghefn gwlad agored.
Beth i'w wneud
I allu adeiladu tŷ yng nghefn gwlad agored a byw y "good life" byddai rhaid i chi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y tir o dan sylw rydych yn berchen arno. Yn hwn byddwch yn esbonio'n fanwl sut byddwch, bum mlynedd wedi derbyn caniatâd cynllunio, yn bodloni'r meini prawf hyn:
- Cyflawni ôl troed ecolegol o 1.88 hectar byd-eang y person; gan ddefnyddio cyfrifiannell Excel Llywodraeth Cymru sydd ar ei gwefan.
- Creu cartref sydd yn ddi-garbon dros ei oes.
- Gwella ansawdd y tir, y dirwedd a'r cynefinoedd naturiol
- Integreiddio gyda'r gymuned leol
- Lleihau effaith carbon eich teithio
- Meddu ar gyflenwad cynaliadwy o ddŵr
- Cynhyrchu bron dim gwastraff (gan gynnwys trin gwastraff ecolegol sy'n dychwelyd maetholion i'r pridd)
- Cyflenwi eich ynni adnewyddadwy 100%
- Dros gyfnod rhesymol o amser (dim mwy na 5 mlynedd), darparu 65% o'ch anghenion gofynnol*, drwy dyfu eich bwyd eich hun ac o enillion eich busnes tir.
Rydym yn cefnogi cyflwyno arweiniad i sicrhau bod aneddiadau newydd ac sydd eisoes yn bodoli, a cheisiadau cynllunio yn bodloni meini prawf tebyg er mwyn bod yn fesuradwy 'un blaned'.
Rydym yn cynnal cyrsiau ar sut i edrych am dir addas ac ysgrifennu eich cynllun rheoli yn seiledig ar lawllyfr The One Planet Life, sydd yn 'llyfr mawr popeth" ar gyfer byw yn gynaliadwy.
Bydd eich cynllun rheoli yn disgrifio'r busnesau tir y byddwch yn eu cynnal i gefnogi'ch hunan.
Wedi i chi dderbyn caniatâd cynllunio mae gennych bum mlynedd i fodloni'r meini prawf. Yna gallwch ddefnyddio label 'un blaned' ar eich cynnyrch. Datblygwyd hyn at ddibenion marchnata gan y Cyngor Un Blaned. Dyma enghraifft ohono ar waith:
* Mae'r anghenion gofynnol yn cynnwys: Treth y cyngor, bwyd, dillad, di-wifr/telegyfathrebu, teithio. Yn nodweddiadol mae 65% oddeutu £1000 a £2000 y person y flwyddyn.
Mesuradwy a phrofadwy
Mantais fawr yr ymagwedd hon, a'i 'rhinwedd gwerthu unigryw', yw ei bod yn fesuradwy ac yn brofadwy. Heb os bydd eich bywyd yn fwy cynaliadwy.
Uchod: sgrinlun o'r gyfrifiannell Excel. Mae'n defnyddio'ch gwariant fel modd o gyfrifo eich ôl troed ecolegol (cliciwch i'w wneud yn fwy).
Byddwch hefyd yn gorfod adrodd am eich cynnydd fel bod y swyddogion cynllunio yn gallu gweld eich bod yn cyflawni yr hyn y dywedoch y byddech yn ei gyflawni. Uchod ceir enghraifft o gyfrifiad anghenion gofynnol ar gyfer annedd pedwar person yn dangos sut, dros bum mlynedd, bod cyfanswm yr 'anghenion gofynnol' wedi gostwng i o leiaf 65% o'r hyn yr oedd ar y cychwyn, yn bennaf am fod yr annedd yn tyfu ei fwyd ei hun.
Gallwch lawrlwytho'r arweiniad cynllunio a'r gyfrifiannell ôl troed ecolegol o wefan Llywodraeth Cymru yma..
Beth yw ôl troed ecolegol?
Mae poblogaeth y byd bellach yn 7.5 biliwn, a disgwylir iddo gyrraedd brig o 11.2 biliwn erbyn 2100 (y Cenhedloedd Unedig). Ond mae gallu ein Daear hyfryd i gefnogi bywyd yn dibynnu arnom yn aros o fewn nifer o 'derfynau'r blaned'. Aeth dynol ryw heibio'r terfyn 'bio-allu' hwn yn ôl yn nechrau'r 1970au. Mae ein hôl troed ar y cyd wedi bod yn codi ers hynny:
Fel y ddiffiniwyd gan yr elusen amgylcheddol WWF, ceir naw o 'derfynau'r blaned'. Bob ychydig flynyddoedd mae WWF yn cynhyrchu arolwg gwych o'r enw 'Living Planet Report'. Roedd yr un diwethaf, yn 2016, yn dweud bod pedwar o'r naw terfyn twf wedi mynd heibio lefelau diogel: newid yn yr hinsawdd, cyfanrwydd y biosffer, llifiant biogemegol a newid system tir.
Meddai WWF fod ar dynol ryw bellach angen y gallu adfywio o 1.6 Daear i ddarparu nwyddau a gwasanaethau rydym yn eu defnyddio ar y cyd. Ond mae ôl troed ecolegol per capita cenhedloedd incwm uchel yn llawer mwy na gwledydd incwm isel a chanolig. Beth fydd yn digwydd os bydd 11.2 biliwn o bobl am safon byw Gogledd America?
Caiff ôl troed ecolegol ei fesur mewn 'hectarau byd-eang'. Mae'n rhannu 'bio-allu' tir (cyflenwad) gyda lefelau treuliant pobl (y galw). Mae'r bio-allu yn fesur o'r llygredd gall tir ei amsugno a'r gwasanaethau a'r adnoddau gall eu darparu. Y galw yw lefel y boblogaeth wedi'i lluosi gyda'r lefel dreuliant. Y canlyniad yw hectarau cyfartalog fesul person, pe baent yn cael eu rhannu'n deg rhwng pawb sydd yn fyw. Mae hectar yn 2.47 erw neu'n 10,000 metr sgwâr neu'n 0.01 cilomedr sgwâr.
Yn ôl yr adroddiad diwethaf, mae 1.7 hectar byd-eang y person yn lefel deg.
Nid yw'n llawer. Dyma lefel y gwledydd â'r treuliant lleiaf yn y byd, yn Affrica ac isgyfandir India.
Felly mae'n rhaid i ni yn y Deyrnas Unedig symud o lefel gyfartalog o dair gwaith hyn (petai pawb yn byw fel hyn, fel petai gennym tair planed Ddaear – oni byddai hynny'n wir!) i un.
Yn ôl i Gymru
Gan fynd yn ôl i Gymru, mae'r ddeddf yma yn cynnwys nod i gyflawni'r newid hwn o fewn un cenhedlaeth.
Mae Datblygiadau Un Blaned ynghylch dangos y ffordd. Dyma ddechrau taith enfawr ac anodd.
- I brynu The One Planet Life, cliciwch yma.
- Rhestrir gweithdai a chyrsiau yma.
You must be logged in to post a comment.