Chwe Cham tuag at Ddinas 'Un Blaned'
Dyma ddyfyniad crynodol o'r llyfr One Planet Cities. Am esboniad a manylion darllenwch y llyfr.
Isod ceir ond un glasbrint awgrymedig ynghylch sut gallai cymuned, o faint cymdogaeth i mega-ddinas neu genedl, benderfynu a gosod llwybr i statws Un Blaned. Byddai'r 'Un Blanedwyr' yma yn cymryd cyfrifoldeb dros lunio byd gwell. Gallent ddewis gwarantu diogelwch a gwytnwch eu trefi ar gyfer y dyfodol, a byddai hynny'n talu dyled gwareiddiad dros yr ychydig ddegawdau diwethaf yn ôl i natur. Dyma fe, ar ffurf grynodol, gyda rhai awgrymiadau syml ar gyfer pynciau unigol.
Gofynion sylfaenol 'Un Blaned'
- Dylai ceisio lleihau ôl troed ecolegol un blaned fod yn egwyddor sylfaenol yr holl gynllunio ac yn bolisi swyddogol y strategaeth adfywio de facto y gellir ei gwirio'n erbyn amcanion.
- Dylid defnyddio'r un gyfres o feini prawf cymdeithasol ac amgylcheddol i asesu'r holl geisiadau cynllunio a chaffael
- Bod y meini prawf hyn wedi'u hysbysu gan ddangosyddion priodol gan gynnwys dadansoddiad ôl troed ecolegol a chylch oes, i alluogi cymharu a gwerthuso effaith yr holl brosiectau posib a gwirioneddol
- Official policy should support all areas and sectors to use One Planet principles and methods to become more productive and more biodiverse – regenerative
- Lleihau defnyddio gormodol ddylai fod y chwyldro cymdeithasol nesaf: mae hyn yn golygu gwneud mwy gyda llai, a chredu bod bodloni anghenion sylfaenol yn ddigon i bawb.
Y llwybr chwe cham tuag at gymunedau a Dinasoedd Un Blaned
- Meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith y gymuned a cheisio adborth ar bob lefel
Cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ac ymgynghoriadau ar-lein ac all-lein i esbonio cyd-destun a nodau er mwyn cael adborth ac ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith y gymuned. Gallai hyn gymryd blwyddyn.
- Penderfynu pa safonau ac amcanion i'w defnyddio
Bydd y rhain yn cynnwys methodoleg a system gyfrifo ac yn gymwys i bob sector megis pridd, bioamrywiaeth, dŵr, ynni, adeiladau, cludiant, lles, etc. Rhaid iddynt gynnwys llunio ôl troed ecolegol.
- Gosod gwaelodlin – y sefyllfa bresennol
Defnyddio data ac arolygon i ganfod man cychwyn ar gyfer gosod nodau: Ar yr ochr gyflenwi, cynhyrchedd ei asedau ecolegol (mannau gwyrdd a chyrff dŵr). Ar ochr y galw, yr asedau/adnoddau ecolegol gofynnol i gynhyrchu'r adnoddau naturiol a gwasanaethau a ddefnyddir.
- Gosod targedau i bob sector dros amserlenni realistig
Gellid mabwysiadu system debyg a ddefnyddir gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, ynghyd â fersiwn o NPV+ i brofi canlyniadau'r sefyllfaoedd gwahanol. Gall cyfres o gynlluniau pum mlynedd ddod o hyn, oll gyda'u cyllideb a'u cyfres o dargedau. Gallai'r targed cyffredinol fod, dyweder, 40 neu 50 mlynedd i ffwrdd, er mwyn bodloni anghenion sylfaenol pawb o fewn terfynau'r blaned. Bydd pob targed tymor byr yn gam yn agosach at gyflawni'r un cyffredinol. Bydd gan bob sector (bio-allu, dŵr, ynni, adeiladau, cludiant, diwydiant, etc.) ei amserlen ei hun.
- Rhoi dulliau mewn lle i'w mesur
Dylai hyn fod yn seiliedig ar ba ddata sy'n hawdd ac yn gost effeithiol i'w gasglu, a chyfeirio'n ôl at y sefyllfa waelodlin, metrigau a ddewiswyd a thargedau'r sector. Dylai'r data fod yn dryloyw ac ar gael yn gyhoeddus. Dylai pawb allu gweld y cynnydd a wneir.
- Gyrru defnyddio i lawr dros genhedlaeth neu ddwy.
Bydd gan bob cynllun pum mlynedd ei gyfnod gwerthuso ei hun i wirio bod pob budd a ddisgwyliwyd wedi'i wireddu, rhannu profiadau, delio â beirniadaeth, adolygu cynlluniau o bosib a dathlu llwyddiannau.
Egwyddorion
Dylai amodau cynllunio, polisïau caffael a'r holl weithdrefnau llywodraethu fabwysiadu'r egwyddorion a'r ymagweddau hyn:
Gweithio gyda pobl
- Parchu a chynnwys pob barn a phob dinesydd
- Cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r Pum Dull o Weithio
- Cydnabod a gwobrwyo neu ddathlu cyflawnwyr ym mhob maes a sector
- Mynd ati i geisio syniadau a datrysiadau
- Meithrin dolenni adborth rhinweddol.
Dod â natur yn ôl
- Bydd amodau cynllunio yn nodi enillion net bioamrywiaeth ar gyfer pob datblygiad
- Dinasoedd adfywiol (waliau, toeon ac isadeiledd eraill gwyrdd)
- Parciau: llawer o fioamrywiaeth
- Coed a llwyni: plannu mwy, cadw'r hyn sydd gennym, a'u gwneud yn fwy cynhyrchiol - cnau a ffrwythau
- Dan do, yn fertigol, ar ben toeon, tyfu bwyd, gan gynnwys madarch, dyframaeth
- Ffermydd fertigol: gallant oll amrywio o warysau mawr i'r tu mewn i gartrefi, siopau a chaffis, a gallant gynnwys dyframaeth a dofednod
- Rhandiroedd, gerddi cymunedol, gerddi therapiwtig
- Planhigion 'bwytadwy anhygoel' ar bob cyfle
- Digon o gyfle am swyddi ar y tir a swyddi prosesu bwyd
- Caffael ar hyd cadwyni cyflenwi yn cynnwys amodau i ildio enillion net mewn bioamrywiaeth.
Isadeiledd a datblygiad technoleg-isel a chost-effeithiol
- Dadansoddiad cylch bywyd i leihau'r galw cyffredinol a'r gost i fyd natur
- Cyflawni datblygiadau graddfa dynol ryw
- Defnyddio deunyddiau effaith isel a naturiol sy'n secwestru carbon lle y bo'n bosibl
- Cadw pethau'n syml: eco-minimaliaeth – gwneud mwy gyda llai
- Cadw pethau'n lleol: cefnogi'r economi leol drwy gaffael yn lleol
- Cynllunio ar gyfer cynnal a chadw, gwaredu ac ailgylchu hawdd
- Gwaredu'r posibilrwydd o ymddygiad llai cynaliadwy trwy ddylunio.
Dŵr
- Gwarchod y defnydd o ddŵr
- Ailddefnyddio dŵr
- Atal llygru dŵr
- Casglu dŵr glaw o doeon
- Ail-lenwi dyfrhaenau dan ddaearol.
Dylunio carbon-negatif
- Effeithlonrwydd ynni, lleihau'r galw a'r angen
- Dylunio adeiladau newydd yn oddefol; ôl-osod adeiladau hŷn yn drylwyr er effeithlonrwydd ynni
- Datgarboneiddio teithio
- Cyflenwadau ynni 100 y cant adnewyddadwy
- Cyflenwad (lleol): gwresogi, oeri, trydan
- Archwilio dichonoldeb prif-gyflenwad gwresogi rhanbarthol
- Cynhyrchu dosbarthedig; bydd 4ydd cenhedlaeth technoleg solar bron yn anweledig, yn aml wedi'i integreiddio i'r adeilad
- Rhai tyrbinau gwynt
- Gwres a phŵer cyfunedig
- Treulio anaerobig ar gyfer bio-nwy a chompost
- Gwresogi: geothermol, pympiau gwres o'r ddaear a dŵr, solar thermol, solar goddefol, bio-nwy;
- Storio rhwng tymhorau
- Technoleg rheoli'r galw
- Systemau Rheoli Gwybodaeth Adeilad mewn adeiladau mwy
- Llosgi gwastraff gwirioneddol yn unig mewn gweithfeydd gwres a phŵer cyfunedig (CHP)
- Gosodiad stryd a phlannu planhigion priodol i'r hinsawdd i naill ai leihau'r effaith ynys wres ac felly leihau'r galw am ynni oeri neu wresogi, gan ddibynnu ar leoliad.
Symudedd a chludiant cynaliadwy
- Lleihau'r angen am deithio'n bell drwy leoli tai ger swyddi, gwasanaethau, siopau etc.
- Cadw traffig cerbydau ar wahân i gerddwyr a beicwyr
- Canol cymdogaethau a threfi siâp dellt, wedi'u rhwydweithio a'u cynllunio o amgylch canolfannau cludiant
- Cludiant cyhoeddus effeithlon a rhad: metro, rheilffordd danddaearol, bysiau, tramiau, rheilffordd ysgafn a rhwng dinasoedd
- Hybu cerdded a beicio trwy ddyluniad strydoedd a chymdogaethau
- Gwahanu traffig lleol a phellter hwy
- Llawer o feiciau a chynlluniau hurio beiciau
- Ricsios, beiciau cargo ar gyfer pobl a dosbarthu nwyddau
- Cynlluniau hurio a rhannu cerbydau trydanol.
Systemau dolen gaeëdig
- Gwaredu gwastraff trwy ddylunio
- Gwaredu plastig drwy ddylunio
- Dylunio cynyrch i'w hailddefnyddio a'u hailgylchu
- Gwobrwyo lleihau gwastraff a didoli gwastraff, yn benodol plastigion
- Adfer maetholion o fwyd, gwastraff amaethyddol a charthffosiaeth
- Gweithdai atgyweirio ac uwchgylchu ym mhob cymdogaeth
- Diwylliant amnewid, cyfnewid, atgyweirio ac ailddefnyddio yn lle diwylliant o daflu ymaith
- Defnyddio systemau symbiosis diwydiannol lleol.
Addasu i newid yn yr hinsawdd
- Bod yn barod am dywydd eithafol
- Pantiau storm a lagynau danddaearol
- Cyforardaloedd mewn ardaloedd llifogydd posib
- Draeniad trefol cynaliadwy
- Amddiffyn rhag gorboethi
- Llystyfiant i fynd i'r afael ag effaith ynys wres
- Mewn ardaloedd gwynt uchel, rhoi adeiladau'n agos at eu gilydd i atal effiath twndis.
Cymdogaethau cyfeillgar
- Dylunio graddfa ddynol sy'n canolbwyntio ar bobl
- Marchnadoedd – ffurfiol ac anffurfiol, stryd a dan do, sy'n werthfawr i fasnachwyr bychan ac ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol
- Cadw gwerth mwynderau ac egni a ymgorfforir mewn hen adeiladau wrth ôl-osod i greu effeithlonrwydd
- Cadw cymunedau drwy ddarparu tai fforddiadwy a chymysgedd llawn o dai a defnydd tir
- Parchu a chefnogi pob diwylliant
- Gwaith, addysg yn ddelfrydol wedi'u lleoli yn agos i gartrefi
- Cludiant cyhoeddus a pharciau o fewn pellter cerdded
- Lleoliadau hamdden, siopau, adloniant ac amgueddfeydd gerllaw.
Iechyd a lles
- Ysbytai a chanolfannau iechyd galw heibio yn y gymdogaeth
- Gall rhai sesiynau ymgynghori fod o bell drwy dechnoleg
- Mynediad i ffrwythau a llysiau rhad, ffres ac iach i bawb
- Gweithdai ac addysg coginio
- Dinasoedd addas i bob oedran
- Cefnogaeth iechyd meddal
- Hygyrchedd ym mhob man: rampiau, nid grisiau
- Cerdded, beicio, llwybrau cerdded, canfod y ffordd.
Democratiaeth a chyfiawnder
- Rhoi ‘the Right to the City’ ar waith
- Gwaredu llwgrwobrwyo
- Pwyllgorau gwarchod annibynnol a thryloywder
- Defnyddio technoleg i fwyafu cymryd rhan mewn penderfyniadau, ymgyrchoedd
- Synwyryddion clyfar, dolenni adborth ac algorithmau i helpu i reoli rhai gwasanaethau sylfaenol
- Mae cynnwys technoleg glyfar yn defnyddio doethineb y dorf, data agored, etc.
- Mae gwyliadwriaeth sensitif a dienw yn rhan o gasglu data, cysylltiedig ag algorithmau sy'n ceisio modelu a rhagweld anghenion er mwyn eu bodloni'n effeithlon.
Safonau
Gall fframweithiau, offer a safonau cyfreithiol sy'n bodoli helpu i atal ailddyfeisio'r olwyn. Bydd y safonau yn helpu gyda'r broses osod a monitro cynnydd. Byddwn yn argymell ystyried mabwysiadu'r canlynol, a drafodwyd yn gynharach yn y llyfr:
- Cyffredinol: the UN Sustainable Development Goals
- Ar gyfer llywodraethu: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (Pennod 16)
- Ar gyfer lleihau effaith treuliant a chynyddu bio-allu: the ecological footprint (Penodau Tri a Phedwar), ac One Planet Development (Pennod 16)
- Ar gyfer lleihau effaith mewnforio ac allforio: Model PRINCE yn Sweden, ac EEMRIO (‘modelu mewnbwn-allbwn estynedig yn amgylcheddol’) (Pennod Pedwar)
- Ar gyfer hybu effeithlonrwydd ynni mewn sefydliadau a diwydiant: ISO 50001 (Penodau Tri a Chwech)
- Ar gyfer cymunedau doeth a chynaliadwy: ISO 37120 (Pennod Tri)
- Ar gyfer rheoli amgylcheddol: ISO 14001 (Pennod Tri)
- Ar gyfer hybu'r economi gylchol: ISO 14040 Life Cycle Analysis (Pennod Tri)