Pwy ydym ni
Y Bwrdd
Mae David Thorpe yn Sylfaenydd/Cyfarwyddwr y Ganolfan Un Blaned ac yn gyd-sylfaenydd/noddwr y Cyngor Un Blaned. Mae'n ymgynghorydd, rheolwr prosiect ac yn areithiwr ysgogol ym maes cynaladwyedd gwledig a threfol, rheoli ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae'n ddarlithydd datblygu/llywodraethu 'un blaned' ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac yn awdur The One Planet Life - llawlyfr byw effaith isel i unigolion, teuluoedd a chymunedau; ac One Planet Cities – compendiwm o ddatrysiadau ar gyfer trefi a dinasoedd, a llwybr llwyddo a awgrymir ar gyfer trosi i statws 'un blaned', ynghyd ag wyth llyfr arall a miloedd o erthyglau am y pynciau hyn, a nifer o nofelau a sgriptiau ffilm. Mae'n credu mewn defnyddio ei wybodaeth helaeth i ddangos y buddion niferus sydd ar gael drwy newid cadarnhaol. Mae'n arbenigwr wrth ddehongli gwybodaeth gymhleth mewn modd ymgysylltiol a syml ac yn cynnal gweithdai a chyrsiau.
Mae gan Lisa Sture, Ysgrifennydd y Cwmni, gefndir mewn hyfforddiant, rheoli a datblygu trefniadaethol, wedi gweithio yn y gwasanaeth sifil yn Llundain, ac fel rheolwr datblygu staff. Roedd yn gadeirydd cwmni nid-er-elw lle bu'n helpu i lansio Menter Adnewyddu Cymunedau'r llywodraeth; cyfarwyddwr sylfaenu Devon Association for Renewable Energy; prif weithredwr cwmni deunydd adnewyddadwy bychan; a Swyddog Arfarnu Cynaladwyedd Cyngor Rhanbarthol Torridge. Mae'r sgiliau hefyd yn cynnwys hyfforddiant maeth, paramaethu, garddwriaeth, a chyflenwi ar gyfer cynllun blwch llysiau lleol. Mae'n canfod cyd-ddibyniaeth hardd popeth ym myd natur i fynegi stori obeithiol, glasbrint ar gyfer twf ac estyniad o fewn system gylchol, hunangynhaliol.
Mae gan Tom Skipworth, Trysorydd, gefndir cryf mewn cydymffurfiad a chyfleoedd ariannu ac mae'n angerddol am fyw'n gynaliadwy ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae hefyd ganddo brofiad ym maes gwerthu a datblygu staff ac mae'n dysgu am adfer pridd organig. Cred y dylai pawb ddod i wybod am effaith amgylcheddol eu dewisiadau a gallu dylanwadu arnynt.
Bwrdd Ymgynghorol
Mae gan Virginia Isaac, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, gefndir cryf ym maes cynaladwyedd. Bu'n brif weithredwr Inspiring Futures Foundation - sefydliad arweiniad gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer pobl ifanc. Ymhlith swyddi cyfarwyddol anweithredol eraill mae llywodraethwr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n Sylfaenydd/Cyfarwyddwr Alter Via Ltc sy'n arbenigo mewn datblygu ac adeiladu refeniw'r drydedd ffrwd o fewn elusennau a sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus. Mae Virginia, a'i gŵr, yn ffermio'n adferol yng Nghymru gyda phwyslais penodol ar ei berthynas ag iechyd. Roedd ei thad, Fritz Schumacher, yn arloeswr yn y mudiad ecolegol ac yn awdur y llyfr blaengar 'Small is Beautiful' ymhlith cyhoeddiadau eraill.
Jane Davidson: Gweinidog dros yr Amgylchedd a Chynaladwyedd Cymru (2007-2011) yn Llywodraeth Cynulliad Cymru a fu'n goruchwylio cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned, a pholisi cynllunio Datblygiadau Un Blaned. Mae'n Is-ganghellor Cysylltiol dros Ymgysylltiad Allanol a Chynaladwyedd ac yn Gyfarwyddwr INSPIRE (Sefydliad er Arfer Cynaliadwy, Arloesedd, Ymchwil a Menter) ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae Jane yn angerddol am yr amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau. Mae ganddi amrywiaeth o gymrodoriaethau anrhydeddus gan CIW (Chartered Institute of Waste) a CIWEM (Chartered Institute of Water and Environmental Management) ac mae'n aelod o Gyngor Llysgenhadol y Deyrnas Unedig WWF. Hi yw noddwr y Chartered Institute of Ecology and Environmental Management (CIEEM) a Tools for Self-reliance Cymru (TFSR).
Andy Middleton: arbenigwr arloesedd cynaliadwy, yn cysylltu pobl a syniadau er mwyn cyflymu amseriad, graddfa ac effaith newid cadarnhaol. Sefydlodd y Grŵp TYF, BCorp sy'n eiddo i'r gweithwyr, ac yn cefnogi eu cenhadaeth i dyfu chwilfrydedd a hyder cadarn yng ngallu pobl i gyfrannu at fyd gwell, tra'n chwarae ac yn byw'n ysgafn ar y blaned. Andy yw Cyfarwyddwr Anweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae'n aelod o Gyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi. Fel Partner Sylfaenu Do Lectures a mentor gydag Unreasonable Group, mae'n helpu arweinwyr a thimau i ddatrys heriau mawr trwy gysylltu'r dotiau mewn ffyrdd newydd.
Mae Eurgain Powell yn achosi newid yn swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gan arwain eu gwaith ar gludiant, datgarboneiddio a chaffael. Datblygodd Fframwaith Cenedlaethau'r Dyfodol ar gyfer prosiectau a hi yw awdur adroddiad "Trafnidiaeth Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol." Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar y Strategaeth Drafnidiaeth newydd, y defnydd o arweiniad WelTAG, masnachfraint rheilffordd Trafnidiaeth Cymru a Metro, cynllun cyflwyno carbon isel a rhaglenni prawf caffael.
Jasmine Dale:
Lewis Whitehouse, statistician and ecological footprint analysist, is a Mathematics graduate and holds an Ecological Economics MSc with a passion for sustainability and the environment. His dissertation focused on ecovillages and their potential for offering a better way of living in accordance with nature, and he now plans to focus his career on finding sustainable solutions that can help achieve a one planet life.
Want to join us? Cysylltwch!
You must be logged in to post a comment.