Share

planet-earthUn blaned yn unig sydd gennym, ond mae dinesydd arferol gwlad ddatblygedig, neu sy'n prysur ddatblygu, 'ôl troed ecolegol' mor fawr pe bai pawb ar y blaned yn byw felly byddai angen tair planed arnom i'w cynnal.

Hynny ydi rydym yn defnyddio mwy o adnoddau nag y gellir eu llenwi yn ôl, ac yn creu mwy o lygredd na all y ddaear ei amsugno. Mae'r blaned mewn argyfwng..

Ond mae sawl datrysiad profedig, ac rydym yn eu cynnig - opsiynau a strategaethau i aelwydydd, busnesau, corfforaethau, cymunedau a dinasoedd eu mabwysiadu a fydd yn eu harwain i leihau eu hôl troed ecolegol yn fawr.

Our ecological footprint per person

Y targed yw 1.6 hectar y person - gyfystyr ag un blaned y Ddaear.

Y gwahaniaeth rhwng ein datrysiadau ni a systemau eraill ar gyfer 'byw'n gynaliadwy' yw bod rhaid i weithredoedd fod yn fesuradwy a gellir eu gwirio gan hepgor dim: fel arall mae fel ceisio gwagio dŵr o gwch sy'n suddo gyda hidlwr.

Mae aelodau Canolfan Un Blaned yma i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau ac i gynnig eu gwasanaethau ar ffurf gweithdai, ymgynghoriaeth, hyfforddiant a mwy. Mae croeso i chi gysylltu â ni gyda'ch ymholiadau.