Share

I bawb sy'n breuddwydio am fyw ag effaith isel mewn cartref di-garbon, yn gweithio'r tir a helpu i wella natur.

Rydym yn cynnig cyrsiau Datblygiadau Un Blaned am sut i lunio cynllun rheoli ar gyfer cais cynllunio, a sut i edrych am dir.

Gwaetha'r modd nid ydym bellach yn cynnig gweithdai bywyd go iawn.

Gallwch wneud ein cyrsiau yn eich amser eich hun, un modiwl ar y tro. Ceir mwy o fanylion isod.

Hyfforddiant ar-lein

The course is suitable whatever stage you are at in your journey; whether you are just thinking about it, or if you have acquired the land. It teaches you how to make a planning application and write a management plan with confidence. We will also look at your existing management plan draft.

Ar Zoom, fe'ch siaredir drwy fodiwl a chewch un neu ddau ymarfer syml a hwyliog i'ch helpu i ddelweddu a datblygu eich cynlluniau.

Wedi i chi gwblhau'r dasg ceir sesiwn arall ar zoom. Bydd Mark yn rhoi adborth ac yn ateb eich cwestiynau. Yna byddwch yn cael y modiwl nesaf, ac yn y blaen. Ceir sgwrs derfynol ar-lein i wneud yn siŵr eich bod yn hapus.

Dyma'r pynciau a drafodir:

  • Y cyd-destun ar gyfer OPD (amgylcheddol, deddfwriaethol, cynllunio), y prif ofynion a'r system gynllunio
  • Y gofynion ac amlinelliad o'r cynllunio rheoli; integreiddio cymunedol; yr anghenion gofynnol; ffurflen ôl troed ecolegol.
  • Beth yw eich busnes tir? Opsiynau, enghreifftiau, rheoli busnes, marchnata: ymarfer a thrafodaeth.
  • Beth yw adeiladu carbon sero? cyflwyniad ac ymarfer dylunio adeilad
  • Beth yw'r opsiynau ynni adnewyddadwy? cyflwyniad a thrafodaeth
  • Opsiynau ynghylch prosesu gwastraff, cyflenwad dŵr a thrin carthffosiaeth lŵp caeëdig
  • Opsiynau cludiant: cyflwyniad a thrafodaeth
  • Dewis & gwerthuso tir priodol: cyflwyniad ac ymarfer cynllunio tir
  • Ychwanegiadau dewisol: Y rhagolygon ar gyfer clystyrau 'un blaned' a phentrefi â chartrefi fforddiadwy, cyflogaeth gynaliadwy a chyfleoedd hyfforddi, yn cael eu harwain gan ymddiriedolaeth gymunedol newydd rydym wedi'i sefydlu.
  • Cwestiynau i gloi am gynlluniau rheoli a thrafodaeth am gynlluniau'r dyfodol.

The entire course costs £80 for one person, £45 each for a couple. If you can’t afford it, discounts are available. Cysylltwch am fwy o fanylion.

Llyfr cwrs allweddol yw The One Planet Life: A Blueprint for Low Impact Development, gan arweinydd y gweithdy David Thorpe.

I gofrestru, trosglwyddwch y swm priodol drwy BACS (trosglwyddiad banc) i: The One Planet Centre Community Interest Company
Cod didoli: 089299
Rhif y cyfrif: 65893838
Cyfrif Community Direct Plus y Co-operative Bank.
Yn y blwch cyfeirnod rhowch: OPDOC

Yna anfonwch e-bost at david@theoneplanetlife.com i roi gwybod i ni.

We can also critique your existing management plan draft for £50 per hour.