Share

Heblaw am gyrsiau Datblygiadau Un Blaned rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ar-lein yn y pynciau hyn; gall y myfyrwyr weithio yn eu pwysau, a cheir tystysgrif ar y diwedd (os oes angen). Holwch yma. Mae'r gost yn amrywio i'ch anghenion ac o hyd yn fforddiadwy.

Mae Jasmine Dale yn cynnig:
  • Hyfforddi a mentora i faethu perthynas ddofn gyda'r dirwedd er mwyn hysbysu dylunio; integreiddio'r meysydd ecolegol, cymdeithasol a phersonol, a chysylltu pobl ag ardal.
  • Mentora cyffredinol ynghylch materion ymarferol, heriau a chyfleoedd i newi i fyw bywyd Un Blaned.
  • Hyfforddi a chefnogi wrth gymhwyso offer dylunio paramaethu a fframweithiau i gynigion Un BlanedEr enghraifft: deall a mapio safle; egluro gweledigaeth a blaenoriaethau; mwyafu lleoli gweithgareddau ac elfennau dylunio yn effeithlon o ran ecoleg ac ynni; rhoi cynllun ar waith; datrys problemau a mwy.

Mae David Thorpe yn cynnig yr hyfforddiant hyn:

  • Datrysiadau ar gyfer cynnal dynol ryw o fewn cyfyngiadau'r blaned
  • Datblygiadau Un Blaned: sut i leihau eich hôl troed ecolegol yn y cartref ac yn y gwaith
  • Pensaernïaeth solar goddefol a dylunio Passivhaus
  • Ynni Solar a Thechnoleg Solar
  • Rheoli Ynni mewn Adeiladau neu Ddiwydiant gan ddefnyddio ISO 50001 – Systemau Rheoli Ynni
  • Adnewyddu Cartrefi yn Gynaliadwy
  • Rheoli Tir yn Gynaliadwy, gan gynnwys amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned.