Share

Rydym yn gwneud hyn am fod ein planed yn marw, a chawn ein harwain gan wyddoniaeth a data.

Mae mwyafrif helaeth yr effeithiau ar gymdeithas a'r amgylchedd, yn gadarnhaol ac yn negyddol, yn codi o'r modd caiff arian ei wario, sy'n deillio o benderfyniadau a wneir.

Mae gennym argyfyngau hinsoddol a difodiant am fod costau amgylcheddol a chymdeithasol heb eu cynnwys ar y fantolen gan lywodraethau a busnesau. Fe'i hystyriwyd hyd yma am ddim, ond nid ydynt am ddim.

Rydyn nawr yn talu'r costau mewn ffyrdd cynyddol ddramatig.

Pe bai pawb yn y byd yn byw fel rydym ni yn byw yn y Deyrnas Unedig byddai angen tair planed y Ddaear brydferth arnom i'n cynnal. Mae angen 1.7 Daear i gefnogi sut mae poblogaeth y byd ar y cyd yn byw.

Wrth gwrs, un blaned yn unig sydd gennym felly mae angen i ni ddysgu i fyw o fewn terfynau'r blaned neu byddwn yn marw.

Ydy hyn yn golygu bod rhaid i ni gyd ddefnyddio llai? Yn bendant mae'n wir y dylid edrych yn feirniadol ar dreuliant eithriadol a gordreuliant. Mae rhywbeth fel y 5% cyfoethocaf yn y byd yn gyfrifol am oddeutu hanner y difrod amgylcheddol i'r blaned.

Rydym ni yn y Ganolfan Un Blaned wedi datblygu’r Safon 'Un Blaned' gynhwysfawr a fydd yn achosi newid system dros amser i leihau effaith ein ffordd o fyw i lefel y gall y blaned ei darparu, ac ailgyflwyno mwy o natur a mwy o amrywiaeth natur i'n hamgylchedd.

Gall unrhyw gorff cyhoeddus neu breifat ddefnyddio'r Safon i optimeiddio'u holl benderfyniadau gwario (a chynllunio yn y pen draw) er mwyn cyflawni'r gôl o wneud i'r rhanbarth leihau ei ôl troed ecolegol a charbon i lefel gynaliadwy y gellir ei mesur.

Mae'n golygu eu bod yn gallu cyflawni nifer o fuddion na cheir wrth fynd ati fesul tipyn.

Mae'r gallu i fesur yn allweddol, i wirio eu bod yn gwneud y peth iawn heb wastraffu amser nac arian.

Mae optimeiddio penderfyniadau yn y modd hwn yn effeithio ar gadwyni cyflenwi. Mae'n creu marchnad am elfen newydd yn yr economi, un sy'n croesawu cynhyrchu a threuliant 'dolen gaeëdig' (lle na cheir unrhyw wastraff, fel gyda natur), a'r defnydd o effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy.

Mae'n aml yn golygu cynhyrchu a chyflenwi mwy lleol (gweler model Preston), rhoi'r gorau i wastraff, mwy o swyddi, mwy o ffyniant a gwell iechyd.

Mae popeth i'w ennill.

Byddai gweinyddiaeth yn diffinio'r cyfnod amser ar gyfer lleihau'r ôl troed i un blaned, yn yr un modd mae gan y Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd gyllidebau pum mlynedd sy'n ceisio lleihau allyriadau i sero erbyn 2050.

Mae targedau yn ffocysu meddyliau. Felly mae gosod targed o 'un blaned' mewn 10 neu 20 mlynedd, dyweder, yn ffordd o gael pawb i feddwl yn yr un modd.

Mae hefyd yn hawdd ei gyfathrebu i bawb; gwaedd 'ymbarél' i uno pawb a chreu brwdfrydedd; ac mae'n bosibl gwirio cynnydd yn erbyn y targed.

Dyma'r math o beth sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru, lle mae'n ofynnol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (gan fod ôl troed ecolegol yn ddangosydd, a gwario ar gyfer gofalu am genedlaethau'r dyfodol yn un o ddibenion y Ddeddf).

Mae John Bird, o'r Big Issue, yn cynnig pasio Mesur tebyg yn Lloegr.

Am y rhesymau hyn, mae mabwysiadu targed 'un blaned' cyffrous ar gyfer y gorfforaeth, y ddinas neu'r sir, fel rhan o ymateb i'r datganiad o argyfwng hinsoddol, yn cyfleu yr holl negeseuon cywir ac yn hepgor dim.

Rydym yn cynnig offer modelu i wneud effeithiau gwahanol fersiynau o wariant cyllidebol yn weladwy ac mae gennym lyfrgell gynyddol o ddatrysiadau profedig sydd ar gael i gleientiaid sy'n talu a hynny am gyfradd gystadleuol iawn.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau a chyhoeddiadau i helpu unigolion ac aelwydydd i leihau eu hôl troed ecolegol ar raddfa lai.