Share

Mae'r cynllun hwn am dŷ arddull goddefol effaith isel yn fodiwlaidd o ran gall arwynebedd y cynllun fod yn lluosog unrhyw bellter rhwng stydiau waliau o ran dyfnder neu led, i greu adeiladau mwy o faint. Yn strwythurol, gall fod o leiaf dau lawr.

Studio as a modular sustainable building

Adeilad cynaliadwy modiwlaidd

Part of the floor plan of a modular sustainable building

Rhan o gynllun llawr adeilad cynaliadwy modiwlaidd

Mae'r adeilad yn gorwedd ar sliperi rheilffordd sy'n gorffwys ar hen deiars wedi'u llenwi hemcrit (gall fod yn llawn pridd neu goncrit), heb fod angen sylfeini.

Mae'r ffrâm o bren, wedi'i inswleiddio gyda ffeibr pren ac inswleiddiad papur newydd wedi'i ailgylchu (cellwlos) (y rhataf), ac yn cynnwys ffenestri sy'n wynebu'r de, tair gwydriad a ardystiwyd gan Passivhaus i gipio gwres yr haul, rendr calch ac yn gwbl anadladwy.

Mae hyn yn gwneud yr adeilad yn ddi-garbon o leiaf, gan fod carbon atmosfferig yn cael ei gloi yn y strwythur ac nid oes angen bron dim mewnbwn ynni i wresogi nac oeri. Yn wir, mae'r ynni a ddefnyddir yn adnewyddadwy, felly mae'r adeilad yn cynhyrchu 'negawatiau'.

Mae gan y llawr deiliau cerameg du i amsugno gwres yr haul. Mae'r to yr oleddf ychydig am yn ôl o'r blaen ac mae ganddo do gwyrdd wedi'i blannu â bywlys sy'n denu gwenyn ac ieir bach yr haf. Ceir gwter yn y cefn.

The studio's insulated floor (woodfibre batts and Warmcel) and interlocking cladding on the outside, sitting on the tyres, before rendering.

Y llawr inswleiddiedig (batiau ffibr pren a Warmcel) a'r cladin sy'n cydgloi ar y tu allan, yn gorwedd ar y teiars, cyn rendro.

Mae'r system wresogi yn drydanol, o dan y llawr, sydd yn fwy effeithlon, ond nid oes fawr ei hangen. Dewiswyd hyn am fod y gofynion gwresogi atodol yn fychan iawn; mae'n effeithlon; mae'r adeilad yn rhedeg ar drydan adnewyddadwy; a dim stôf bren er mwyn osgoi rhoi twll yn yr amlen thermol i gael twll yn y nenfwd (byddai hefyd yn galw am awyriad i gyflenwi ocsigen ffres yn lle'r ocsigen a gaiff ei losgi!).

Mae pontio thermol wedi'i waredu'n llwyr yn bennaf gan y cladin yr holl ffordd o'i amgylch gyda byrddau ffibr pren tafodi a rhigoli wedi'u trwytho mewn cŵyr (i'w gwneud yn wrthddŵr), a gorffeniad rendr calch sydd ei hun â nodwedd inswleiddio fechan.

Gall yr adeilad, ac fe gafodd, ei adeiladu gan adeiladwr confensiynol a oruchwyliwyd yn dda.

Cysylltu â ni os hoffech ddylunio a manylebu adeilad fel hwn.