Share

Drawing of woman saving the planet

Dod â natur yn ôl

  • Bydd amodau cynllunio yn nodi enillion net bioamrywiaeth ar gyfer pob datblygiad
  • Dinasoedd adfywiol (waliau, toeon ac isadeiledd eraill gwyrdd)
  • Parciau: llawer o fioamrywiaeth
  • Coed a llwyni: plannu mwy, cadw'r hyn sydd gennym, a'u gwneud yn fwy cynhyrchiol - cnau a ffrwythau
  • Dan do, yn fertigol, ar ben toeon, tyfu bwyd, gan gynnwys madarch, dyframaeth
  • Ffermydd fertigol: gallant oll amrywio o warysau mawr i'r tu mewn i gartrefi, siopau a chaffis, a gallant gynnwys dyframaeth a dofednod
  • Rhandiroedd, gerddi cymunedol, gerddi therapiwtig
  • Planhigion 'bwytadwy anhygoel' ar bob cyfle
  • Digon o gyfle am swyddi ar y tir a swyddi prosesu bwyd
  • Caffael ar hyd cadwyni cyflenwi yn cynnwys amodau i ildio enillion net mewn bioamrywiaeth.

Isadeiledd a datblygiad technoleg-isel a chost-effeithiol

  • Dadansoddiad cylch bywyd i leihau'r galw cyffredinol a'r gost i fyd natur
  • Cyflawni datblygiadau graddfa dynol ryw
  • Defnyddio deunyddiau effaith isel a naturiol sy'n secwestru carbon lle y bo'n bosibl
  • Cadw pethau'n syml: eco-minimaliaeth – gwneud mwy gyda llai
  • Cadw pethau'n lleol: cefnogi'r economi leol drwy gaffael yn lleol
  • Cynllunio ar gyfer cynnal a chadw, gwaredu ac ailgylchu hawdd
  • Gwaredu'r posibilrwydd o ymddygiad llai cynaliadwy trwy ddylunio.

Dŵr

  • Gwarchod y defnydd o ddŵr
  • Ailddefnyddio dŵr
  • Atal llygru dŵr
  • Casglu dŵr glaw o doeon
  • Ail-lenwi dyfrhaenau dan ddaearol.

Dylunio carbon-negatif

  • Effeithlonrwydd ynni, lleihau'r galw a'r angen
  • Dylunio adeiladau newydd yn oddefol; ôl-osod adeiladau hŷn yn drylwyr er effeithlonrwydd ynni
  • Datgarboneiddio teithio
  • Cyflenwadau ynni 100 y cant adnewyddadwy
  • Cyflenwad (lleol): gwresogi, oeri, trydan
  • Archwilio dichonoldeb prif-gyflenwad gwresogi rhanbarthol
  • Cynhyrchu dosbarthedig; bydd 4ydd cenhedlaeth technoleg solar bron yn anweledig, yn aml wedi'i integreiddio i'r adeilad
  • Rhai tyrbinau gwynt
  • Gwres a phŵer cyfunedig
  • Treulio anaerobig ar gyfer bio-nwy a chompost
  • Gwresogi: geothermol, pympiau gwres o'r ddaear a dŵr, solar thermol, solar goddefol, bio-nwy;
  • Storio rhwng tymhorau
  • Technoleg rheoli'r galw
  • Systemau Rheoli Gwybodaeth Adeilad mewn adeiladau mwy
  • Llosgi gwastraff gwirioneddol yn unig mewn gweithfeydd gwres a phŵer cyfunedig (CHP)
  • Gosodiad stryd a phlannu planhigion priodol i'r hinsawdd i naill ai leihau'r effaith ynys wres ac felly leihau'r galw am ynni oeri neu wresogi, gan ddibynnu ar leoliad.

Symudedd a chludiant cynaliadwy

  • Lleihau'r angen am deithio'n bell drwy leoli tai ger swyddi, gwasanaethau, siopau etc.
  • Cadw traffig cerbydau ar wahân i gerddwyr a beicwyr
  • Canol cymdogaethau a threfi siâp dellt, wedi'u rhwydweithio a'u cynllunio o amgylch canolfannau cludiant
  • Cludiant cyhoeddus effeithlon a rhad: metro, rheilffordd danddaearol, bysiau, tramiau, rheilffordd ysgafn a rhwng dinasoedd
  • Hybu cerdded a beicio trwy ddyluniad strydoedd a chymdogaethau
  • Gwahanu traffig lleol a phellter hwy
  • Llawer o feiciau a chynlluniau hurio beiciau
  • Ricsios, beiciau cargo ar gyfer pobl a dosbarthu nwyddau
  • Cynlluniau hurio a rhannu cerbydau trydanol.

Systemau dolen gaeëdig

  • Gwaredu gwastraff trwy ddylunio
  • Gwaredu plastig drwy ddylunio
  • Dylunio cynyrch i'w hailddefnyddio a'u hailgylchu
  • Gwobrwyo lleihau gwastraff a didoli gwastraff, yn benodol plastigion
  • Adfer maetholion o fwyd, gwastraff amaethyddol a charthffosiaeth
  • Gweithdai atgyweirio ac uwchgylchu ym mhob cymdogaeth
  • Diwylliant amnewid, cyfnewid, atgyweirio ac ailddefnyddio yn lle diwylliant o daflu ymaith
  • Defnyddio systemau symbiosis diwydiannol lleol.

Addasu i newid yn yr hinsawdd

  • Bod yn barod am dywydd eithafol
  • Pantiau storm a lagynau danddaearol
  • Cyforardaloedd mewn ardaloedd llifogydd posib
  • Draeniad trefol cynaliadwy
  • Amddiffyn rhag gorboethi
  • Llystyfiant i fynd i'r afael ag effaith ynys wres
  • Mewn ardaloedd gwynt uchel, adeiladu adeiladau'n agos at ei gilydd i atal effiath twndis.

Cymdogaethau cyfeillgar

  • Dylunio graddfa ddynol sy'n canolbwyntio ar bobl
  • Marchnadoedd – ffurfiol ac anffurfiol, stryd a dan do, sy'n werthfawr i fasnachwyr bychan ac ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol
  • Cadw gwerth mwynderau ac egni a ymgorfforir mewn hen adeiladau wrth ôl-osod i greu effeithlonrwydd
  • Cadw cymunedau drwy ddarparu tai fforddiadwy a chymysgedd llawn o dai a defnydd tir
  • Parchu a chefnogi pob diwylliant
  • Gwaith, addysg yn ddelfrydol wedi'u lleoli yn agos i gartrefi
  • Cludiant cyhoeddus a pharciau o fewn pellter cerdded
  • Lleoliadau hamdden, siopau, adloniant ac amgueddfeydd gerllaw.

Iechyd a lles

  • Ysbytai a chanolfannau iechyd galw heibio yn y gymdogaeth
  • Gall rhai sesiynau ymgynghori fod o bell drwy dechnoleg
  • Mynediad i ffrwythau a llysiau rhad, ffres ac iach i bawb
  • Gweithdai ac addysg coginio
  • Dinasoedd addas i bob oedran
  • Cefnogaeth iechyd meddal
  • Hygyrchedd ym mhob man: rampiau, nid grisiau
  • Cerdded, beicio, llwybrau cerdded, canfod y ffordd.

Democratiaeth a chyfiawnder

  • Rhoi ‘Hawl i'r Ddinas’ ar waith
  • Gwaredu llwgrwobrwyo
  • Pwyllgorau gwarchod annibynnol a thryloywder
  • Defnyddio technoleg i fwyafu cymryd rhan mewn penderfyniadau, ymgyrchoedd
  • Synwyryddion clyfar, dolenni adborth ac algorithmau i helpu i reoli rhai gwasanaethau sylfaenol
  • Mae cynnwys technoleg glyfar yn defnyddio doethineb y dorf, data agored, etc.
  • Mae gwyliadwriaeth sensitif a dienw yn rhan o gasglu data, cysylltiedig ag algorithmau sy'n ceisio modelu a rhagweld anghenion er mwyn eu bodloni'n effeithlon.

Trefniadaeth a rheoli

  • Gosod targed i leihau ôl troed ecolegol y sir/rhanbarth i 'un blaned' ymhen 20 mlynedd o'r sefyllfa tair planed gyfredol.
  • Gwirio beth sy'n achosi'r ôl troed uchel cyfredol a lle gellir cyflawni enillion hawdd.
  • Gwella galwadau gwariant pob corff cyhoeddus i greu marchnad newydd ar gyfer darparwyr gwasanaethau a nwyddau gwirioneddol gynaliadwy (model Preston + lleihau ôl troed ecolegol), gan gynnwys yr holl feini prawf cymdeithasol, ariannol ac amgylcheddol yn y prosesau prynu.
  • Ysgogi'r trosi i economi gylchol, ailddefnyddio popeth fel mae natur yn ei wneud, gyda hyfforddiant, dyfarniadau a gwobrwyon.
  • Sicrhau nad yw adrannau'n gwneud penderfyniadau'n annibynnol fel bod pob adran yn gweithio gyda'i gilydd.
  • Newid y gyfraith gynllunio i atal datblygiadau nad ydyn yn cyfrannu at nod Un Blaned, ac annog rhai sydd yn gwneud hynny. Mae meini prawf Datblygiadau Un Blaned sydd eisoes yn eu lle yn cynnig glasbrint ar gyfer gweddill y cynllunio sydd i ddod.
  • Rhoi monitro yn ei le i wirio bod cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yn alinio gyda'r targedau.
  • Datblygu app cyfrifo ôl troed ecolegol unigol ac ar gyfer y ddinas fel gall pawb wirio eu hôl troed eu hunain a chymharu â tharged a chyfartaledd y ddinas fel rhan o raglen codi ymwybyddiaeth a chyhoeddusrwydd.

Sylwer: Ôl troed ecolegol = ôl troed carbon + pob effaith arall & buddion megis mwy o natur.

Dyma beth mae rhai dinasoedd yn ei wneud