Share

Mae Safon Un Blaned yn offeryn rydym wedi'i ddatblygu ar gyfer sefydliadau o unrhyw faint i'w helpu i reoli lleihau eu hôl troed ecolegol i 'un blaned'.

One Planet Standard logo

Mae'n llwybr defnyddiol ar gyfer newid trefniadaethol y gellir ei fabwysiadu gan sefydliadau o unrhyw fath neu faint, yn gorff cyhoeddus, yn fenter, yn gorfforaethol neu'n gymunedol.

Mae Jane Davidson, pensaer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), yn cefnogi'r Safon, ac yn ei galw'n offeryn aruthrol i helpu pobl i fod yn hyderus wrth leihau eu hallyriadau", a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, sy'n dweud:

“Mae'r Safon yn alinio ac yn adeiladu ar fy nghyngor cyfredol ym maes datgarboneiddio a gwella cadernid natur, a gall helpu nid yn unig y sector cyhoeddus ond pob sefydliad yng Nghymru gyda chamau gweithredu ymarferol i fodloni targedau allyriadau carbon a bioamrywiaeth.

“Mae'r Safon yn canolbwyntio ar y 5 dull o weithio ac yn hybu meddwl yn yr hirdymor; mae'n offeryn hawdd ei ddeall a defnyddiol a all helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, atal y drychineb sydd ar y gorwel a helpu i sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol a'r blaned."

Y gwahaniaethau allweddol rhwng y datrysiad hwn a mwyafrif y systemau eraill ar gyfer cyflawni cynaladwyedd yw:

  1. rhaid i'ch gweithredoedd fod yn fesuradwy a modd eu gwirio'n wrthrychol
  2. ceir asesiad annibynnol, gydag offeryn ar-lein
  3. bydd eich targedau'n cyfeirio'n uniongyrchol at weithredu o fewn terfynau'r blaned, a
  4. gallwch gyfrif am eich holl effeithiau, yn gadarnhaol ac yn negyddol.

…fel arall mae fel ceisio gwagio dŵr o gwch sy'n suddo gyda hidlwr!

Mae'r Safon ar gael i'w lawrlwytho am ddim a gall ein partneriaid, Assessment Services Ltd, sydd wedi darparu offeryn hunanasesu ar-lein, ei hasesu'n annibynnol ac yn gyfrinachol.

Gall sefydliadau ddehongli gofynion y Safon mewn modd sy'n berthnasol i'w gweithgarwch.

Gallwn ni yn y Ganolfan Un Blaned eich cefnogi gyda deunyddiau hyfforddi, astudiaethau achos, datrysiadau a chyngor. Mae gennym ni ac Assessment Services 30 mlynedd o brofiad yn ein meysydd busnes.

Ynghyd ag asesu'n annibynnol, bydd Safon Un Blaned yn helpu sefydliadau i gyfrif am holl effeithiau eu gweithgarwch, gan gynnwys effeithiau cymdeithasol.

O'i lawrlwytho cewch ddwy ddogfen: y Safon ei hun a What It Means In Practice:

One-Planet-Standard-cover

One-Planet-Standard-WIMIP-cover

Costau a buddion

Os byddwch yn mesur costau a buddion cymdeithasol ac ecolegol i ganfod gwerth cymdeithasol a gwerth naturiol, ynghyd â gwerth ariannol, gallwch gynllunio'ch gweithgareddau i wneud eich hunain yn net positif yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol!

Pam gwneud hynny? Rydym wedi arfer meddwl am gostau a buddion ariannol, gan ddymuno i'n mantolen cost-budd fod yn net positif.

Ond yn aml ni chaiff costau a buddion cymdeithasol ac amgylcheddol ein gweithgareddau eu cynnwys ar y fantolen hon. Dyma'n bennaf pam fod gennym argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae'r Safon yn esbonio sut i gyfrif am bob effaith, da neu ddrwg, fel y gallwch fod yn 'net positif'. Bydd yr offer y gallwn eu cynnig yn helpu sefydliadau i gyflawni hyn.

Mae'r Safon yn cydblethu gyda'r Nodau Datblygu Cynaliadwy a'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) gan gynnwys ei phum dull o weithio.

Mae'n cefnogi proses o wella parhaus.

Bydd sefydliadau'n gosod amserlen, gyda cherrig milltir, i gyflawni ôl troed un blaned gan ddefnyddio offer mesur a gwirio.

Mae'r graff isod yn dangos hyd a lled diffyg ecolegol dynol ryw. Mae hi'n hanner can mlynedd ers i ni weithredu o fewn y terfynau y gall y blaned eu cefnogi. Dyna pam bod angen i bob sefydliad gyfrannu at yr ymdrech frys i wrthdroi'r tueddiad hwn:

Humanity's ecological footprint from 1960 to 2020

Ôl troed ecolegol dynol ryw rhwng 1960 a 2020 Ffynhonnell: WWF, Living Planet Report

Mae'r graff hefyd yn dangos elfennau o'r ôl troed ecolegol, sy'n darlunio mwy na'r ôl troed carbon yn unig.

I lawrlwytho'r Safon am ddim heb rwymedigaeth, gweler ei gwefan benodol.

I ganfod sut rydym yn cefnogi sefydliadau sy'n dewis mabwysiadau'r Safon, cliciwch yma.