Share

Canolfan Un Blaned

Mae'r Ganolfan yn Gwmni Buddiannau Cymunedol nid-er-elw (rhif cwmni 12510450), ac yn rhwydwaith o ymarferwyr ac ymchwilwyr sy'n ymroddedig i dyfu a datblygu byw 'un blaned'. Rydym wedi'n lleoli yn ne Cymru, y Deyrnas Unedig, sy'n rhan o'r byd sy'n mynd ati i gefnogi'r ymagwedd hon.

Gallwn wneud beth bynnag a fynnwn cyhyd ag y bo o fewn ein datganiad o genhadaeth sydd yn ein rheolau. Y rhain yw:
  • Byddwn yn cyflwyno buddion i unrhyw sefydliadau, cymunedau ac unigolion sy'n ceisio lleihau eu hôl troed ecolegol a charbon gyda gweithdai, offer, ymgynghoriaeth, hyfforddiant a chyfathrebu. Byddwn yn cynorthwyo cymunedau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau'r defnydd o adnoddau naturiol, annog mwy o natur yn eu hardal a gwella ffrwythlondeb pridd.
  • Bydd hyn yn cyflawni'r un lefel o wasanaeth/ansawdd bywyd neu well gyda gwell effeithiau ar yr amgylchedd A, thrwy eu cynorthwyo i fonitro eu cynnydd, rhoi hyder i randdeiliaid bod ymdrechion yn cael eu ffocysu lle cânt gyflawni'r gwahaniaeth mwyaf.

Gwrandewch ar bodlediad y BBC sy'n esbonio rhywfaint ar beth rydym yn ei wneud.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o sefydliadau ac yn cynnig ymgynghoriaeth, gweithdai, hyfforddiant, cyfathrebiadau, a thystiolaeth / ymchwil am bob agwedd ar leihau ôl troed ecolegol:

  • cymunedau, trefi a dinasoedd 'un blaned';
  • datblygiadau ‘un blaned’;
  • cyfrifo ôl troed ecolegol;
  • adeiladau ac adnewyddu di-garbon;
  • teithio di-garbon;
  • teithio di-garbon;cynhyrchu a chyflenwi bwyd, gan gynnwys ffermio trefol;
  • rheoli tir a phridd;
  • ynni adnewyddadwy;
  • effeithlonrwydd ynni;
  • darpariaeth dŵr a thrin carthffosiaeth yn ecolegol;
  • defnyddio adnoddau dolen gaeëdig.

Sut gallwn ni eich helpu chi? Fedrwch chi ein cefnogi ni? Ydych chi am ymuno â ni?

I gysylltu â ni am fwy o wybodaeth neu i drafod ymholiad penodol cwblhewch y ffurflen yma.