{"id":309,"date":"2019-01-22T10:11:21","date_gmt":"2019-01-22T10:11:21","guid":{"rendered":"http:\/\/theoneplanetlife.com\/?page_id=309"},"modified":"2022-08-05T08:14:42","modified_gmt":"2022-08-05T07:14:42","slug":"six-steps-towards-a-one-planet-city","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/publications\/one-planet-cities\/six-steps-towards-a-one-planet-city\/","title":{"rendered":"Chwe Cham tuag at Ddinas 'Un Blaned'"},"content":{"rendered":"<p>Dyma ddyfyniad crynodol o'r llyfr <a href=\"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/one-planet-cities\/\"><em>One Planet Cities<\/em><\/a>. Am esboniad a manylion darllenwch y llyfr.<\/p>\n<p>Isod ceir ond un glasbrint awgrymedig ynghylch sut gallai cymuned, o faint cymdogaeth i mega-ddinas neu genedl, benderfynu a gosod llwybr i statws Un Blaned. Byddai'r 'Un Blanedwyr' yma yn cymryd cyfrifoldeb dros lunio byd gwell. Gallent ddewis gwarantu diogelwch a gwytnwch eu trefi ar gyfer y dyfodol, a byddai hynny'n talu dyled gwareiddiad dros yr ychydig ddegawdau diwethaf yn \u00f4l i natur. Dyma fe, ar ffurf grynodol, gyda rhai awgrymiadau syml ar gyfer pynciau unigol.<\/p>\n<h2>Gofynion sylfaenol 'Un Blaned'<\/h2>\n<ol>\n<li>Dylai ceisio lleihau \u00f4l troed ecolegol un blaned fod yn egwyddor sylfaenol yr holl gynllunio ac yn bolisi swyddogol y strategaeth adfywio de facto y gellir ei gwirio'n erbyn amcanion.<\/li>\n<li>Dylid defnyddio'r un gyfres o feini prawf cymdeithasol ac amgylcheddol i asesu'r holl geisiadau cynllunio a chaffael<\/li>\n<li>Bod y meini prawf hyn wedi'u hysbysu gan ddangosyddion priodol gan gynnwys dadansoddiad \u00f4l troed ecolegol a chylch oes, i alluogi cymharu a gwerthuso effaith yr  holl brosiectau posib a gwirioneddol<\/li>\n<li>Official policy should support all areas and sectors to use One Planet principles and methods to become more productive and more biodiverse \u2013 regenerative<\/li>\n<li>Lleihau defnyddio gormodol ddylai fod y chwyldro cymdeithasol nesaf: mae hyn yn golygu gwneud mwy gyda llai, a chredu bod bodloni anghenion sylfaenol yn ddigon i bawb.<\/li>\n<\/ol>\n<h2>Y llwybr chwe cham tuag at gymunedau a Dinasoedd Un Blaned<\/h2>\n<ol>\n<li><u> Meithrin ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith y gymuned a cheisio adborth ar bob lefel<\/u><\/li>\n<\/ol>\n<p>Cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ac ymgynghoriadau ar-lein ac all-lein i esbonio cyd-destun a nodau er mwyn cael adborth ac ymdeimlad o berchnogaeth ymhlith y gymuned. Gallai hyn gymryd blwyddyn.<\/p>\n<ol start=\"2\">\n<li><u> Penderfynu pa safonau ac amcanion i'w defnyddio <\/u><\/li>\n<\/ol>\n<p>Bydd y rhain yn cynnwys methodoleg a system gyfrifo ac yn gymwys i bob sector megis pridd, bioamrywiaeth, d\u0175r, ynni, adeiladau, cludiant, lles, etc. Rhaid iddynt gynnwys llunio \u00f4l troed ecolegol.<\/p>\n<ol start=\"3\">\n<li><u> Gosod gwaelodlin \u2013 y sefyllfa bresennol<\/u><\/li>\n<\/ol>\n<p>Defnyddio data ac arolygon i ganfod man cychwyn ar gyfer gosod nodau: Ar yr ochr gyflenwi, cynhyrchedd ei asedau ecolegol (mannau gwyrdd a chyrff d\u0175r). Ar ochr y galw, yr asedau\/adnoddau ecolegol gofynnol i gynhyrchu'r adnoddau naturiol a gwasanaethau a ddefnyddir.<\/p>\n<ol start=\"4\">\n<li><u> Gosod targedau i bob sector dros amserlenni realistig <\/u><\/li>\n<\/ol>\n<p>Gellid mabwysiadu system debyg a ddefnyddir gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, ynghyd \u00e2 fersiwn o NPV+ i brofi canlyniadau'r sefyllfaoedd gwahanol. Gall cyfres o gynlluniau pum mlynedd ddod o hyn, oll gyda'u cyllideb a'u cyfres o dargedau. Gallai'r targed cyffredinol fod, dyweder, 40 neu 50 mlynedd i ffwrdd, er mwyn bodloni anghenion sylfaenol pawb o fewn terfynau'r blaned.  Bydd pob targed tymor byr yn gam yn agosach at gyflawni'r un cyffredinol. Bydd gan bob sector (bio-allu, d\u0175r, ynni, adeiladau, cludiant, diwydiant, etc.) ei amserlen ei hun.<\/p>\n<ol start=\"5\">\n<li><u> Rhoi dulliau mewn lle i'w mesur<\/u><\/li>\n<\/ol>\n<p>Dylai hyn fod yn seiliedig ar ba ddata sy'n hawdd ac yn gost effeithiol i'w gasglu, a chyfeirio'n \u00f4l at y sefyllfa waelodlin, metrigau a ddewiswyd a thargedau'r sector. Dylai'r data fod yn dryloyw ac ar gael yn gyhoeddus. Dylai pawb allu gweld y cynnydd a wneir.<\/p>\n<ol start=\"6\">\n<li><u> Gyrru defnyddio i lawr dros genhedlaeth neu ddwy.<\/u><\/li>\n<\/ol>\n<p>Bydd gan bob cynllun pum mlynedd ei gyfnod gwerthuso ei hun i wirio bod pob budd a ddisgwyliwyd wedi'i wireddu, rhannu profiadau, delio \u00e2 beirniadaeth, adolygu cynlluniau o bosib a dathlu llwyddiannau.<\/p>\n<h2>Egwyddorion<\/h2>\n<p>Dylai amodau cynllunio, polis\u00efau caffael a'r holl weithdrefnau llywodraethu fabwysiadu'r egwyddorion a'r ymagweddau hyn:<\/p>\n<h3>Gweithio gyda pobl<\/h3>\n<ul>\n<li>Parchu a chynnwys pob barn a phob dinesydd<\/li>\n<li>Cyrff cyhoeddus yn defnyddio'r Pum Dull o Weithio<\/li>\n<li>Cydnabod a gwobrwyo neu ddathlu cyflawnwyr ym mhob maes a sector<\/li>\n<li>Mynd ati i geisio syniadau a datrysiadau<\/li>\n<li>Meithrin dolenni adborth rhinweddol.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Dod \u00e2 natur yn \u00f4l<\/h3>\n<ul>\n<li>Bydd amodau cynllunio yn nodi enillion net bioamrywiaeth ar gyfer pob datblygiad<\/li>\n<li>Dinasoedd adfywiol (waliau, toeon ac isadeiledd eraill gwyrdd)<\/li>\n<li>Parciau: llawer o fioamrywiaeth<\/li>\n<li>Coed a llwyni: plannu mwy, cadw'r hyn sydd gennym, a'u gwneud yn fwy cynhyrchiol - cnau a ffrwythau<\/li>\n<li>Dan do, yn fertigol, ar ben toeon, tyfu bwyd, gan gynnwys madarch, dyframaeth<\/li>\n<li>Ffermydd fertigol: gallant oll amrywio o warysau mawr i'r tu mewn i gartrefi, siopau a chaffis, a gallant gynnwys dyframaeth a dofednod<\/li>\n<li>Rhandiroedd, gerddi cymunedol, gerddi therapiwtig<\/li>\n<li>Planhigion 'bwytadwy anhygoel' ar bob cyfle<\/li>\n<li>Digon o gyfle am swyddi ar y tir a swyddi prosesu bwyd<\/li>\n<li>Caffael ar hyd cadwyni cyflenwi yn cynnwys amodau i ildio enillion net mewn bioamrywiaeth.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Isadeiledd a datblygiad technoleg-isel a chost-effeithiol<\/h3>\n<ul>\n<li>Dadansoddiad cylch bywyd i leihau'r galw cyffredinol a'r gost i fyd natur<\/li>\n<li>Cyflawni datblygiadau graddfa dynol ryw<\/li>\n<li>Defnyddio deunyddiau effaith isel a naturiol sy'n secwestru carbon lle y bo'n bosibl<\/li>\n<li>Cadw pethau'n syml: eco-minimaliaeth \u2013 gwneud mwy gyda llai<\/li>\n<li>Cadw pethau'n lleol: cefnogi'r economi leol drwy gaffael yn lleol<\/li>\n<li>Cynllunio ar gyfer cynnal a chadw, gwaredu ac ailgylchu hawdd<\/li>\n<li>Gwaredu'r posibilrwydd o ymddygiad llai cynaliadwy trwy ddylunio.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>D\u0175r<\/h3>\n<ul>\n<li>Gwarchod y defnydd o dd\u0175r<\/li>\n<li>Ailddefnyddio d\u0175r<\/li>\n<li>Atal llygru d\u0175r<\/li>\n<li>Casglu d\u0175r glaw o doeon<\/li>\n<li>Ail-lenwi dyfrhaenau dan ddaearol.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Dylunio carbon-negatif<\/h3>\n<ul>\n<li>Effeithlonrwydd ynni, lleihau'r galw a'r angen<\/li>\n<li>Dylunio adeiladau newydd yn oddefol; \u00f4l-osod adeiladau h\u0177n yn drylwyr er effeithlonrwydd ynni<\/li>\n<li>Datgarboneiddio teithio<\/li>\n<li>Cyflenwadau ynni 100 y cant adnewyddadwy<\/li>\n<li>Cyflenwad (lleol): gwresogi, oeri, trydan<\/li>\n<li>Archwilio dichonoldeb prif-gyflenwad gwresogi rhanbarthol<\/li>\n<li>Cynhyrchu dosbarthedig; bydd 4ydd cenhedlaeth technoleg solar bron yn anweledig, yn aml wedi'i integreiddio i'r adeilad<\/li>\n<li>Rhai tyrbinau gwynt<\/li>\n<li>Gwres a ph\u0175er cyfunedig<\/li>\n<li>Treulio anaerobig ar gyfer bio-nwy a chompost<\/li>\n<li>Gwresogi: geothermol, pympiau gwres o'r ddaear a d\u0175r, solar thermol, solar goddefol, bio-nwy;<\/li>\n<li>Storio rhwng tymhorau<\/li>\n<li>Technoleg rheoli'r galw<\/li>\n<li>Systemau Rheoli Gwybodaeth Adeilad mewn adeiladau mwy<\/li>\n<li>Llosgi gwastraff gwirioneddol yn unig mewn gweithfeydd gwres a ph\u0175er cyfunedig (CHP)<\/li>\n<li>Gosodiad stryd a phlannu planhigion priodol i'r hinsawdd i naill ai leihau'r effaith ynys wres ac felly leihau'r galw am ynni oeri neu wresogi, gan ddibynnu ar leoliad.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Symudedd a chludiant cynaliadwy<\/h3>\n<ul>\n<li>Lleihau'r angen am deithio'n bell drwy leoli tai ger swyddi, gwasanaethau, siopau etc.<\/li>\n<li>Cadw traffig cerbydau ar wah\u00e2n i gerddwyr a beicwyr<\/li>\n<li>Canol cymdogaethau a threfi si\u00e2p dellt, wedi'u rhwydweithio a'u cynllunio o amgylch canolfannau cludiant<\/li>\n<li>Cludiant cyhoeddus effeithlon a rhad: metro, rheilffordd danddaearol, bysiau, tramiau, rheilffordd ysgafn a rhwng dinasoedd<\/li>\n<li>Hybu cerdded a beicio trwy ddyluniad strydoedd a chymdogaethau<\/li>\n<li>Gwahanu traffig lleol a phellter hwy<\/li>\n<li>Llawer o feiciau a chynlluniau hurio beiciau<\/li>\n<li>Ricsios, beiciau cargo ar gyfer pobl a dosbarthu nwyddau<\/li>\n<li>Cynlluniau hurio a rhannu cerbydau trydanol.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Systemau dolen gae\u00ebdig<\/h3>\n<ul>\n<li>Gwaredu gwastraff trwy ddylunio<\/li>\n<li>Gwaredu plastig drwy ddylunio<\/li>\n<li>Dylunio cynyrch i'w hailddefnyddio a'u hailgylchu<\/li>\n<li>Gwobrwyo lleihau gwastraff a didoli gwastraff, yn benodol plastigion<\/li>\n<li>Adfer maetholion o fwyd, gwastraff amaethyddol a charthffosiaeth<\/li>\n<li>Gweithdai atgyweirio ac uwchgylchu ym mhob cymdogaeth<\/li>\n<li>Diwylliant amnewid, cyfnewid, atgyweirio ac ailddefnyddio yn lle diwylliant o daflu ymaith<\/li>\n<li>Defnyddio systemau symbiosis diwydiannol lleol.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Addasu i newid yn yr hinsawdd<\/h3>\n<ul>\n<li>Bod yn barod am dywydd eithafol<\/li>\n<li>Pantiau storm a lagynau danddaearol<\/li>\n<li>Cyforardaloedd mewn ardaloedd llifogydd posib<\/li>\n<li>Draeniad trefol cynaliadwy<\/li>\n<li>Amddiffyn rhag gorboethi<\/li>\n<li>Llystyfiant i fynd i'r afael ag effaith ynys wres<\/li>\n<li>Mewn ardaloedd gwynt uchel, rhoi adeiladau'n agos at eu gilydd i atal effiath twndis.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Cymdogaethau cyfeillgar<\/h3>\n<ul>\n<li>Dylunio graddfa ddynol sy'n canolbwyntio ar bobl<\/li>\n<li>Marchnadoedd \u2013 ffurfiol ac anffurfiol, stryd a dan do, sy'n werthfawr i fasnachwyr bychan ac ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol<\/li>\n<li>Cadw gwerth mwynderau ac egni a ymgorfforir mewn hen adeiladau wrth \u00f4l-osod i greu effeithlonrwydd<\/li>\n<li>Cadw cymunedau drwy ddarparu tai fforddiadwy a chymysgedd llawn o dai a defnydd tir<\/li>\n<li>Parchu a chefnogi pob diwylliant<\/li>\n<li>Gwaith, addysg yn ddelfrydol wedi'u lleoli yn agos i gartrefi<\/li>\n<li>Cludiant cyhoeddus a pharciau o fewn pellter cerdded<\/li>\n<li>Lleoliadau hamdden, siopau, adloniant ac amgueddfeydd gerllaw.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Iechyd a lles<\/h3>\n<ul>\n<li>Ysbytai a chanolfannau iechyd galw heibio yn y gymdogaeth<\/li>\n<li>Gall rhai sesiynau ymgynghori fod o bell drwy dechnoleg<\/li>\n<li>Mynediad i ffrwythau a llysiau rhad, ffres ac iach i bawb<\/li>\n<li>Gweithdai ac addysg coginio<\/li>\n<li>Dinasoedd addas i bob oedran<\/li>\n<li>Cefnogaeth iechyd meddal<\/li>\n<li>Hygyrchedd ym mhob man: rampiau, nid grisiau<\/li>\n<li>Cerdded, beicio, llwybrau cerdded, canfod y ffordd.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Democratiaeth a chyfiawnder<\/h3>\n<ul>\n<li>Rhoi \u2018the Right to the City\u2019 ar waith<\/li>\n<li>Gwaredu llwgrwobrwyo<\/li>\n<li>Pwyllgorau gwarchod annibynnol a thryloywder<\/li>\n<li>Defnyddio technoleg i fwyafu cymryd rhan mewn penderfyniadau, ymgyrchoedd<\/li>\n<li>Synwyryddion clyfar, dolenni adborth ac algorithmau i helpu i reoli rhai gwasanaethau sylfaenol<\/li>\n<li>Mae cynnwys technoleg glyfar yn defnyddio doethineb y dorf, data agored, etc.<\/li>\n<li>Mae gwyliadwriaeth sensitif a dienw yn rhan o gasglu data, cysylltiedig ag algorithmau sy'n ceisio modelu a rhagweld anghenion er mwyn eu bodloni'n effeithlon.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Safonau<\/h2>\n<p>Gall fframweithiau, offer a safonau cyfreithiol sy'n bodoli helpu i atal ailddyfeisio'r olwyn. Bydd y safonau yn helpu gyda'r broses osod a monitro cynnydd. Byddwn yn argymell ystyried mabwysiadu'r canlynol, a drafodwyd yn gynharach yn y llyfr:<\/p>\n<ul>\n<li>Cyffredinol: the UN Sustainable Development Goals<\/li>\n<li>Ar gyfer llywodraethu: Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) (Pennod 16)<\/li>\n<li>Ar gyfer lleihau effaith treuliant a chynyddu bio-allu: the ecological footprint (Penodau Tri a Phedwar), ac One Planet Development (Pennod 16)<\/li>\n<li>Ar gyfer lleihau effaith mewnforio ac allforio: Model PRINCE yn Sweden, ac EEMRIO (\u2018modelu mewnbwn-allbwn estynedig yn amgylcheddol\u2019) (Pennod Pedwar)<\/li>\n<li>Ar gyfer hybu effeithlonrwydd ynni mewn sefydliadau a diwydiant: ISO 50001 (Penodau Tri a Chwech)<\/li>\n<li>Ar gyfer cymunedau doeth a chynaliadwy: ISO 37120 (Pennod Tri)<\/li>\n<li>Ar gyfer rheoli amgylcheddol: ISO 14001 (Pennod Tri)<\/li>\n<li>Ar gyfer hybu'r economi gylchol: ISO 14040 Life Cycle Analysis (Pennod Tri)<\/li>\n<\/ul>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>This is a summary extract from the book One Planet Cities. For explanation and detail please read the book. Below is just one suggested blueprint for how a community from a neighbourhood up to a megacity or nation in size&#8230; <a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/publications\/one-planet-cities\/six-steps-towards-a-one-planet-city\/\">Continue Reading &rarr;<\/a><\/p>","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":274,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"spay_email":""},"jetpack_shortlink":"https:\/\/wp.me\/P8HWPV-4Z","jetpack-related-posts":[{"id":17,"url":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/publications\/the-one-planet-life-book\/","url_meta":{"origin":309,"position":0},"title":"The One Planet Life","date":"12\/15\/2014","format":false,"excerpt":"The One Planet Life\u00a0is a guidebook\u00a0for everyone on the path towards a way of life in which we don\u2019t act as if we had more than one planet Earth. It also represents\u00a0a manifesto for a change in attitude towards land use. At 438 pages and with almost\u00a0400 full colour illustrations\u2026","rel":"","context":"With 16 comments","img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":60,"url":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/publications\/the-one-planet-life-book\/contents\/","url_meta":{"origin":309,"position":1},"title":"Contents","date":"01\/27\/2015","format":false,"excerpt":"Buy this book for \u00a330.25 [10% discount] including postage and packing. How to use this book Foreword by Pooran Desai Introduction by Jane Davidson Part One: A Call for Change We have only one planet - a manifesto for a change in attitude to land and planning Part Two: Steps\u2026","rel":"","context":"Similar post","img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i0.wp.com\/theoneplanetlife.com\/wp-content\/uploads\/2015\/01\/one-planet-living-cover-final-web-300x208.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200},"classes":[]},{"id":312,"url":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/publications\/one-planet-cities\/book-contents\/","url_meta":{"origin":309,"position":2},"title":"Book contents","date":"01\/22\/2019","format":false,"excerpt":"Chapter summaries for 'One Planet' Cities: Sustaining Humanity Within Planetary Boundaries: Introduction: how civilisation's war on nature through endless development and appropriation of resources has landed us in a terrible mess: a personal note. 1. Public images: Why we are so poor at imagining positive futures, and what can be\u2026","rel":"","context":"Similar post","img":{"alt_text":"","src":"","width":0,"height":0},"classes":[]},{"id":274,"url":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/publications\/one-planet-cities\/","url_meta":{"origin":309,"position":3},"title":"One Planet Cities","date":"12\/31\/2018","format":false,"excerpt":"'One Planet' Cities: Sustaining Humanity within Planetary Limits How to meet the essential needs of the growing human population without breaking the Earth's already-stretched life-support system. This book contains ways to address the climate and extinction emergencies. Its advice is already influencing public bodies in UK cities. Published May 2019.\u2026","rel":"","context":"Similar post","img":{"alt_text":"","src":"https:\/\/i2.wp.com\/theoneplanetlife.com\/wp-content\/uploads\/2019\/01\/One-Planet-Cities-Thorpe.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200},"classes":[]},{"id":501,"url":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/the-science-of-one-planet-living\/how-to-reduce-your-ecological-footprint\/","url_meta":{"origin":309,"position":4},"title":"How to reduce your ecological footprint","date":"11\/14\/2019","format":false,"excerpt":"Follow the science and the data. We use this to offer consultancy and courses in reducing ecological footprints. For organisations \u2013 public, private and community bodies \u2013 we have developed the One Planet Standard to support organisational change and the setting of targets to implement the many proven solutions we\u2026","rel":"","context":"Similar post","img":{"alt_text":"How to reduce your ecological footprint illustrated article","src":"https:\/\/i2.wp.com\/theoneplanetlife.com\/wp-content\/uploads\/2019\/11\/reduce-your-footprint-1024x709.png?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200},"classes":[]},{"id":881,"url":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/one-planet-standard\/","url_meta":{"origin":309,"position":5},"title":"The One Planet Standard","date":"07\/07\/2021","format":false,"excerpt":"The One Planet Standard is a tool we have developed for organisations of any size to help them manage the reduction of their ecological footprint to 'one planet'. It's a helpful roadmap for organisational change that can be adopted by any type or size of organisation, whether public body, enterprise,\u2026","rel":"","context":"Similar post","img":{"alt_text":"One-Planet-Standard-WIMIP-cover","src":"https:\/\/i0.wp.com\/theoneplanetlife.com\/wp-content\/uploads\/2021\/07\/One-Planet-Standard-WIMIP-cover.jpg?resize=350%2C200&ssl=1","width":350,"height":200},"classes":[]}],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/309"}],"collection":[{"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=309"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/309\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1106,"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/309\/revisions\/1106"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/274"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/theoneplanetlife.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=309"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}